Commedia dell'arte


Ffurf cynnar ar theatr broffesiynol oedd y Commedia dell'arte (neu commedia alla maschera, commedia improvviso, a commedia dell'arte all'improvviso) [1] a darddodd o theatr Eidalaidd, ac a fu'n boblogaidd ledled Ewrop rhwng yr 16eg a'r 18fed ganrif. [2] [3] Ceir llwyfanniad o'r arddull gomedïol mor gynnar â 1551 yn Rhufain.[4] Fe'i gelwid gynt yn gomedi Eidalaidd (Saesneg: Italian comedy). Nodweddir Commedia gan "fathau" o gymeriadau mewn masgiau sef cymeriadau cynddelwaidd a rennir ar draws pob cynhyrchiad ac sy'n adnabyddus trwy eu henwau, eu gwisgoedd a'u swyddogaethau yn y gomedi.
Dylanwadodd yr arddull ar nifer fawr o ddramodwyr fel Molière a'r Cymro Ian Rowlands.[5]
Commedia oedd yn gyfrifol am gynnydd actoresau fel Isabella Andreini[6] a pherfformiadau byrfyfyr yn seiliedig ar sgetsys neu senarios.[7] Mae rhai commedia wedi'u sgriptio, gyda nodweddion fel plot allweddol a mynediadau ac allanfeydd cymeriadau wedi'u nodi, ac yna bydd yr actorion yn byrfyfyrio jôcs newydd ar y llwyfan.
Mae'n bosib i'r arddull darddu, neu fod yn gysylltiedig â'r Carnifal yn Fenis, lle roedd yr awdur a'r actor Andrea Calmo wedi creu'r cymeriad 'Il Magnifico', rhagflaenydd y vecchio (sy'n golygu 'hen un' neu'n syml 'hen') 'Pantalone', erbyn 1570. Byddai'r cysylltiad â'r Carnifal (y cyfnod rhwng Nos Ystwyll a Dydd Mercher y Lludw) yn awgrymu bod gwisgo masgiau yn gonfensiwn o'r Carnifal ac wedi'i gymhwyso ar ryw adeg. Mae'r traddodiad yng ngogledd yr Eidal wedi'i ganoli yn Fflorens, Mantua, a Fenis, lle daeth y cwmnïau mawr o dan warchodaeth y gwahanol ddugiaid. Ar yr un pryd, daeth traddodiad Napoli i'r amlwg yn y de ac roedd yn cynnwys y ffigur llwyfan amlwg 'Pulcinella', —yn fwyaf enwog fel y cymeriad pyped 'Punch' (o'r sioeau 'Punch and Judy' o'r un enw) yn Lloegr.
"Yr oedd slapstic, campau corfforol, effeithiau syfrdanol, canu a dawnsio, ymladdfeydd, consurio, colbio, digrifwch gweladwy, yn bwysicach na'r cynnwys llenyddol", yn ôl Bruce Griffiths yn y gyfrol Llwyfannau [Gwynedd 1981].[8] Nododd hefyd bod eu techneg wedi dylanwadu ar ddramodwyr fel Molière yn Ffrainc, "a thrwy hwnnw ar holl gomedi Gorllewin Ewrop".[8]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]
Mae cymeriadau'r commedia yn rhai fyddai'n adnabyddus i bawb fel hen ddynion ffôl, gweision cyfrwys, neu swyddogion milwrol ffug-falch.[9] Mae rhai ohonynt yn cynrychioli swyddi go iawn, ond wedi'u gorliwio, fel y meddyg gwybodus o'r enw 'il Dottore', hen ddyn barus o'r enw 'Pantalone', neu berthynas gariadus berffaith rhwng dau gariad fel yr 'innamorati'.[6]
Gellid rhannu'r cymeriadau i 4 grŵp amlwg :
- Y Zanni: gweision, clowniau; cymeriadau fel 'Arlecchino' (Harlequin), 'Brighella', 'Scapino', 'Pulcinella' a 'Pedrolino'.[1]
- Y Vecchi: hen ddynion cyfoethog; meistri; cymeriadau fel 'Pantalone' a 'il Dottore'
- Yr Innamorati : cariadon ifanc o ddosbarth uwch; megis 'Flavio' ac 'Isabella'
- Yr Il Capitano: sef capteniaid, y gwŷr rhodresgar; ('Scaramuccia').
| Cymeriad(au) | Masgiau | Statws |
|---|---|---|
| Beltrame | Ie | Pentrefwr sy'n esgus bod yn gyfoethog |
| Brighella | Ie | Gwas/cymeriad dosbarth canol clyfar a dialgar |
| Colombia | Na | Morwyn/gwas bywiog |
| Gianduja | Na | Gwerinwr gonest sy'n caru gwin a bwyd |
| Harlequin | Ie | Gwas (weithiau i ddau feistr) |
| Il Capitano | Ie | Gŵr anghenus, tlawd |
| Il Dottore | Ie | Pennaeth yr aelwyd |
| Innamorati | Na | Cariadon anobeithiol dosbarth uchel |
| Pantalone | Ie | Dyn cyfoethog hŷn |
| Pierrot | Dim (ond colur trwm) | Gwas (Clown Trist) |
| Pulcinella | Ie | Gwas neu feistr |
| Sandrone | Na | Gwerinwr cyfrwys |
| Scaramouche | Ie, wedi'i ddileu'n ddiweddarach | Ymffrostiwr â nodweddion dihiryn |
| Tartaglia | Ie | Gwladweinydd sy'n atal dweud |
Nodwedd arall o commedia yw pantomeim, a ddefnyddir yn bennaf gan y cymeriad 'Arlecchino', sydd bellach yn fwy adnabyddus fel 'Harlequin' neu ffŵl y ffair.[10]
Ffurfiwyd llawer o gwmnïau i berfformio commedia, gan gynnwys I Gelosi a'r trŵpiau Confidenti, Desioi a Fedeli, gyda pherfformiadau gan amlaf yn yr awyr agored ar lwyfannau neu mewn mannau poblogaidd fel piazza (sgwâr y dref).[1]
Roedd y rhannau benywaidd yn cael eu portreadu gan ferched, mor gynnar â 1560au.[11]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 Rudlin, John (1994). Commedia Dell'Arte An Actor's Handbook. Llundain: Routledge. t. 48. ISBN 978-0-415-04769-2.
- ↑ Lea, K. M. (1962). Italian Popular Comedy: A Study In The Commedia Dell'Arte, 1560–1620 With Special Reference to the English State. New York: Russell & Russell INC. t. 3.
- ↑ Wilson, Matthew R. "A History of Commedia dell'arte". Faction of Fools. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 March 2017. Cyrchwyd 9 December 2016.
- ↑ Katritzky, M A (2019). "Stefanelo Botara and Zan Ganassa: Textual and Visual Records of a Musical commedia dell'arte Duo, In and Beyond Early Modern Iberia". Music in Art: International Journal for Music Iconography 44 (1–2): 97–118. ISSN 1522-7464.
- ↑ Rowlands, Ian (1999). A Trilogy of Appropriation. Parthian.
- 1 2 Ducharte, Pierre Louis (1966). The Italian Comedy: The Improvisation Scenarios Lives Attributes Portraits and Masks of the Illustrious Characters of the Commedia dell'Arte (yn Saesneg). Efrog Newydd: Dover Publication. t. 17. ISBN 978-0486216799.
- ↑ Chaffee, Judith; Crick, Olly (2015).
- 1 2 Griffiths, Bruce (1981). Llwyfannau. Gwasg Gwynedd.
- ↑ Chaffee, Judith; Crick, Olly (2015).
- ↑ Broadbent, R.J. (1901). A History Of Pantomime (yn Saesneg). Efrog Newydd: Benjamin Blom, Inc. t. 62.
- ↑ Giacomo Oreglia (2002). Commedia dell'arte. Ordfront. ISBN 91-7324-602-6