Neidio i'r cynnwys

Colofnau Ercwlff

Oddi ar Wicipedia
Colofnau Ercwlff
Mathtirffurf Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadCulfor Gibraltar Edit this on Wikidata
GwladMoroco, Sbaen, Gibraltar Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36°N 5.35°W Edit this on Wikidata
Map
Craig Gibraltar, un o Golofnau Ercwlff, gyda golygfa ar y culfor tuag at arfordir Affrica
Baner Sbain, sy'n cynnwys arfbais Sbaen. Mae'r pileri sy'n sefyll ar y naill ochr a'r llall yn cynrychioli Colofnau Ercwlff

Enw a ddefnyddiwyd ers yr Henfyd ar gyfer dau bentir ar y naill ochr a'r llall i Gulfor Gibraltar, wrth fynedfa'r Môr Canoldir yw Colofnau Ercwlff[1] neu Pyrth Ercwlff[2] (Lladin: Columnae Herculis; Hen Roeg: Ἡράκλειαι Στῆλαι). Yn Lladin Calpe Mons ac Abila Mons oedd eu henwau. Gibraltar yw'r golofn ogleddol ar ochr Ewrop, ond mae lleoliad y golofn ddeheuol ar ochr Affrica wedi bod yn destun dadl. Y ddau ymgeisydd mwyaf tebygol yw Monte Hacho yn Ceuta, diriogaeth Sbaenaidd ar arfordir Gogledd Affrica, a Jebel Musa ym Moroco.

Beth bynnag oedd eu lleoliad manwl gywir, roedd y colofnau'n nodi terfyn gorllewinol gwareiddiad Môr y Canoldir hynafol. Cafodd y colofnau eu henw o un o ddeuddeg llafur Ercwlff (Heracles, Hercules), sef ei genhadaeth i adfer gwartheg Geryon, anghenfil tairpen a oedd yn byw yn y "gorllewin pell". Yn ôl rhai ffynonellau Rhufeinig,[3] tra ar ei ffordd i ardd yr Hesperides ar ynys Erytheia, bu’n rhaid i Ercwlff groesi mynydd mawr. Yn lle ei ddringo, defnyddiodd Ercwlff ei nerth rhyfeddol i dorri drwyddo. Drwy wneud hynny, cysylltodd Cefnfor yr Iwerydd â Môr y Canoldir gan ffurfio Culfor Gibraltar.

Yn ei weithiau Timaeus a Critias lleolodd Platon ynys chwedlonol Atlantis y tu hwnt i Golofnau Ercwlff.[4] Dywed traddodiad y Dadeni fod y colofnau'n dwyn y rhybudd Ne plus ultra ("Dim byd pellach y tu hwnt"), fel rhybudd i forwyr i beidio â mynd ymhellach.[5]

Mae'r colofnau ar ffurf symbolaidd wedi bod yn rhan o arfbais frenhinol Sbaen ers amser Siarl I, a deyrnasodd fel Siarl V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Felly maent yn ymddangos ar faner y wlad hefyd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  colofn. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Gorffennaf 2026.
  2. Geiriadur yr Academi, s.v. "pillar"
  3. Seneca, Hercules Furens 235ff.; Seneca, Hercules Oetaeus 1240; Pliny, Nat. Hist. iii.4.
  4. Copley, Jon (19 Medi 2001). "Sea level study reveals Atlantis candidate". New Scientist (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2019.
  5. Villaseñor Black, Charlene, gol. (2019). Renaissance Futurities: Science, Art, Invention. Univ of California Press. t. 104.