Neidio i'r cynnwys

Colmcille (partneriaeth)

Oddi ar Wicipedia
Colmcille
Enghraifft o:Mudiad iaith Edit this on Wikidata
GwladwriaethGweriniaeth Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Mae Colmcille yn rhaglen bartneriaeth rhwng Foras na Gaeilge (yn yr Iwerddon) a Bòrd na Gàidhlig (yn yr Alban), sy'n hyrwyddo defnyddio Gwyddeleg a Gaeleg a rhwng y ddwy wlad. Nod Colmcille, trwy ei waith, yw meithrin dealltwriaeth o brofiad a diwylliant amrywiol cymunedau Gwyddelig a Gaeleg ac annog trafodaeth ar bryderon cyffredin mewn materion cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd gyda'r nod o feithrin hunanhyder o fewn cymunedau'r iaith Gaeleg.

Enwir y mudiad Colmcille, ar ôl y mynach Colum Cille o'r 6g yn abaty Ynys Iona a chwaraeodd ran ganolog ym mywyd ysbrydol a diwylliant ehangach Iwerddon, yr Alban a gogledd Lloegr. Gadawodd yr abaty a'i chwaer-sefydliadau argraff diwylliannol pwysig, gan gynnwys Llyfr Kells. Sefydlwyd y mudiad Colmcille yn sgil dathliadau 1,500 mlynedd ers geni'r mynach yn Swydd Donegal yn ystod 2020 a 2021.[1]

Nod Colmcille yw dod â siaradwyr Gaeleg a Gwyddeleg ynghyd mewn ffordd weithredol a phersonol er mwyn:

  • dysgu a dod i adnabod ei gilydd, eu hieithoedd, eu diwylliant a'u treftadaeth
  • rhannu eu traddodiadau diwylliannol
  • rhannu gwybodaeth, a chydweithredu i ddiwallu anghenion ei gilydd
  • codi ymwybyddiaeth o'r amgylchedd naturiol, corfforol a diwylliannol y maent yn byw ynddo, a hyrwyddo iechyd a lles yr ieithoedd Gaeleg fel rhan o'r amgylchedd hwnnw
  • cydweithio â siaradwyr Gaeleg yng Nghanada, a chyda siaradwyr Manaweg.

Ariannu

[golygu | golygu cod]

Mae Colmcille yn gweithredu drwy gynlluniau grant a thrwy hwyluso a chychwyn prosiectau. Mae cyllid yn mynd i'r afael â'r themâu canlynol: y celfyddydau, pobl ifanc, treftadaeth, dysgu Gaeleg a Gwyddeleg, partneriaeth a datblygu cymunedol, ac ymchwil.

Cyllid o'r Alban

[golygu | golygu cod]

Bòrd na Gàidhlig yw prif gefnogwr Colmcille drwy ei gynllun grantiau cymunedol Taic Freumhan Coimhearsnachd sy'n cynnwys blaenoriaeth ar brosiectau sy'n meithrin cysylltiadau rhwng siaradwyr Gaeleg a Gwyddeleg.

Iwerddon

[golygu | golygu cod]

Sefydliad Foras na Gaeilge sy'n gweithredu ar sail drawsffiniol ac mae ganddo dri chynllun grant:

Cynllun Grant Colmcille, ar gyfer prosiectau, sydd â dau rownd ariannu'r flwyddyn
Cynllun grantiau bach Colmcille ar gyfer datblygu partneriaethau a phrosiectau, sydd ar agor yn barhaus
Cynllun bwrsariaeth Colmcille ar gyfer siaradwyr Gwyddeleg sy'n dysgu Gaeleg.[2]

Gweithredu

[golygu | golygu cod]

Mae Colmcille yn trefnu neu yn cefnogi amryw o fentrau gan cynnwys teithiau cerdded hanesyddol, darlithoedd, dangosiadau ffilm yn yr ieithoedd brodorol, a chefnogi cyrsiau dysgu ieithoedd ei gilydd.[3]

Gŵyl gerddoriaeth Féile na Gealaí

[golygu | golygu cod]

Mae Colmcille yn cymryd rhan yng ngweithgareddau gŵyl Féile na Gealaí (sef "Gŵyl y Lleuad" yn y Wyddeleg) sy'n darparu gŵyl wersylla Wyddeleg er mwyn hybu cerddoriaeth, diwylliant a’r holl gelfyddydau Gwyddeleg. Fe'i cynhelir yn flynyddol ym mhentref Gaeltacht Ráth Chairn yn Swydd an Mhí (Meath).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Foras na Gaeilge and Bòrd na Gàidhlig launch new Colmcille website". Foras na Gaeilge. Cyrchwyd 18 Chwefror 2026.
  2. "Funding". Gwefan Colmcille. Cyrchwyd 18 Chwefror 2026.
  3. "News". Gwefan Colmcille. Cyrchwyd 18 Chwefror 2026.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]