Collwyn ap Tangno

Oddi ar Wicipedia
Collwyn ap Tangno
Man preswylHarlech Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
GalwedigaethArglwydd Edit this on Wikidata
PlantMerwydd 'Goch' ap Gollwyn, Einion ap Collwyn Edit this on Wikidata

Uchelwr Cymreig oedd Collwyn ap Tangno neu Gollwyn ap Tangno (bl. 11g) a fu'n Arglwydd Eifionydd, Cantref Dunoding (Ardudwy), a rhan o Lŷn.[1] Efe oedd sefydlydd y pumed o Bymtheg Llwyth Gwynedd.

Yn ôl traddodiad, dywed iddo ddisgyn, drwy Cunedda, o'r Brenin Urien Rheged a Coel Hen. Credir iddo fyw yn Nhŵr Bronwen, Harlech, a rhoddwyd yr enw Caer Collwyn ar yr amddiffynfa honno.[2] Gyda'i wraig gyntaf, Modlan Benllydan, cafodd bum plentyn (Merwydd Goch, Ebnowen, Ednyfed, Cadifor, Eginir), ac un mab (Einion) gyda'i ail wraig Rhianwen ferch Ednyfed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Thomas Nicholas (1872). Annals and Antiquities of the Counties and County Families of Wales, Containing a Record of All Ranks of the Gentry, Their Lineage, Alliances, Appointments, Armorial Ensigns, and Residences ... (yn Saesneg). Longmans. t. 201.
  2. Owain Wiliams, "Achyddiaeth", Y Brython (Gorffennaf 1860), t. 251. Adalwyd ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar 15 Ionawr 2021.