Colley Cibber

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:41, 21 Ionawr 2020 gan Adda'r Yw (sgwrs | cyfraniadau)
Colley Cibber
Ganwyd6 Tachwedd 1671 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw11 Rhagfyr 1757 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
  • The King's School, Grantham Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, bardd, ysgrifennwr, actor llwyfan Edit this on Wikidata
SwyddBardd Llawryfog y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadCaius Gabriel Cibber Edit this on Wikidata
PriodCatherine Cibber Edit this on Wikidata
PlantTheophilus Cibber, Catharine Cibber, Charlotte Charke Edit this on Wikidata

Actor a rheolwr theatr o Sais a beirdd a dramodydd yn yr iaith Saesneg oedd Colley Cibber (6 Tachwedd 167111 Rhagfyr 1757) sydd yn nodedig fel un o feistri'r gomedi sentimental. Gwasanaethodd yn swydd Bardd Llawryfog y Deyrnas Unedig o 3 Rhagfyr 1730 hyd ei farwolaeth.

Ymunodd â'r Theatr Frenhinol yn Drury Lane yn 1690, a daeth i'r amlwg fel actor digrif drwy chwarae'r coegyn mewn sawl un o gomedïau'r Adferiad. Ysgrifennodd ei ddrama gyntaf, Love's Last Shift, yn 1696, a dyma'r enghraifft gyntaf o gomedi sentimental, genre a ddaeth i ddominyddu'r theatr Seisnig am ganrif gyfan. Ysgrifennodd ryw 30 o ddramâu eraill, gan gynnwys She Wou'd and She Wou'd Not (1702), The Careless Husband (1704), a The Nonjuror (1717). O 1710 i 1740, Cibber oedd rheolwr y Theatr Frenhinol.

Er ei lwyddiannau yn y theatr, ffigur hynod o gynhennus oedd Cibber a bu nifer o'i gyfoedion yn ei ystyried yn ddyn haerllug ac yn ddringwr cymdeithasol digywilydd. Bu'n gyff gwawd i sawl beirniad, a fe'i anfarwolwyd yn ffug-arwr y gerdd The Dunciad gan Alexander Pope.

Cyfeiriadau