Colin Hughes

Oddi ar Wicipedia
Colin Hughes
Ganwyd14 Mawrth 1953 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Kent Edit this on Wikidata
Galwedigaethmicrofiolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Microbiolegydd o Gymru yw Colin Hughes PhD ScD FLSW (ganwyd 14 Mawrth 1953) sydd wedi defnyddio dulliau bioleg foleciwlaidd a strwythurol i astudio ffyrnigrwydd, symudedd a gwrthsafiad gwrthfiotigau o facteria sy’n achosi clefydau heintus. Mae'n Athro Emeritws Microbioleg ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn Gymrawd Coleg y Drindod Caergrawnt, ac yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.[1][2][3]

Bywyd ac Addysg[golygu | golygu cod]

Cafodd Hughes ei eni a'i fagu yng ngogledd-ddwyrain diwydiannol o Gymru. Ei rieni oedd May Hughes (g. Roberts) a Joseph Hughes, gweithiwr tecstilau. Fe’i addysgwyd yn Ysgol Ramadeg/Cyfun Treffynnon. Astudiodd y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Caint, Caergaint (1971-74), lle rhwng 1974 a 1977 cynhaliodd ymchwil ar plasmidau - DNA ecstracromosomaidd - o facteria ar gyfer ei PhD o dan oruchwyliaeth yr Athro GG Meynell. [4][5]

Gyrfa academaidd[golygu | golygu cod]

Hyfforddodd mewn tair swydd ôl-ddoethuriaeth: yn Sefydliad Ymchwil Sandoz Fienna (1977-80), ym Mhrifysgol Würzburg gyda'r Athro Werner Goebel (1980-83), ac yn Sefydliad Ymchwil Smith Kline yn Philadelphia (1884) . Yn 1985 daeth yn Ddarlithydd mewn Microbioleg yn Adran Patholeg Prifysgol Caergrawnt lle sefydlodd ymchwil i fioleg foleciwlaidd bacteria pathogen. Canolbwyntiodd ei waith ar fecanweithiau cellog sy'n sail i biogenesis ac allforio tocsin[6][7][8][9], i adeiladu fflagela sy’n caniatáu i facteria nofio [10][11][12], ac i yrru gwrthfiotigau allan o gelloedd bacteriol i sefydlu ymwrthedd antibiotig [13][14][15][16][17][18] Mae wedi cyhoeddi dros 120 o erthyglau ymchwil, wedi'u rhestru ar Google Scholar.[19] Cafodd ei ddyrchafu yn Ddarllenydd (Reader) yn 1996, ac yn 2001 yn Athro Microbioleg ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac yn 2000 derbyniodd y radd Doethur mewn Gwyddoniaeth yno. Fe'i hetholwyd yn Gymrawd Coleg y Drindod, Caergrawnt ym 1997, ac yn 2012 daeth yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Rhwng 1985 a 2018 bu Hughes yn dysgu myfyrwyr Gwyddor Naturiol, Meddygol a Milfeddygol y Brifysgol yn yr Adran Patholeg, lle daeth yn Gyfarwyddwr Addysgu (2011-17). Bu’n Gyfarwyddwr Astudiaethau mewn Gwyddorau Meddygol yng Ngholeg y Drindod rhwng 1997 a 2017. Roedd o’n Bennaeth Adran Microbioleg a Pharasitoleg yr Adran Patholeg rhwng 1998 a 2017, ac yn Ddirprwy Bennaeth yr Adran rhwng 2011 a 2017.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. [1] Department of Pathology, University of Cambridge
  2. [2] Fellows of Trinity College Cambridge
  3. [3] Fellows, The Learned Society of Wales
  4. [4]Hughes C, Meynell GG (1974) High frequency of antibiotic resistant enterobacteria. Lancet ii:451-453
  5. [5] Hughes C.MeynellGG (1977) Rapid screening for plasmid DNA.Molecular and General Genetics 151:175-179
  6. [6] Issartel et al (1991) Activation of Escherichia coli prohaemolysin to the mature toxin by acyl carrier protein-dependent fatty acylation. Nature 351:759-761
  7. [7] Stanley et al (1994) Fatty acylation of two internal lysine residues required for the toxic of Escherichia coli hemolysin. Science 266:1992-1996
  8. [8] Thanabalu et al (2000) Substrate-induced assembly of a contiguous channel for protein export from E.coli.EMBO J 17:6487-6496
  9. [9] Greene et al (2015) Structure of bacterial toxin-activating acyltransferase.Proc Natl Acad Sci (USA) 112:E3058-3066
  10. [10] Thomas et al (2004) Docking of chaperone-substrate complexes at the membrane ATPase during flagellar type III protein export. Proc Natl Acad Sci (USA) 101:3945-3950
  11. [11] Evans et al (2006) An escort mechanism for cycling export chaperones. Proc Natl Acad Sci (USA) 103:17474-17479
  12. [12] Evans et al (2013) A chain mechanism for flagellum growth. Nature 504:287-290
  13. [13] Koronakis et al (2000) Crystal structure of ToIC central to multidrug efflux and protein export. Nature 405:914-919
  14. [14] Andersen et al (2002) Transition to the open state of the ToIC periplasmic tunnel entrance. Proc Natl Acad Sci (USA) 99:11103-11108
  15. [15] Higgins et al (2004) Structure of the periplasmic component of a bacterial efflux pump.Proc Natl Acad Sci (USA) 101:9994-9999
  16. [16] Lobedanz et al (2007) A coiled-coil interface underlying ToIC recruitment and pump assembly. Proc Natl Acad Sci (USA) 104:4612-4617
  17. [17] Symmons et al (2009)The assembled structure of a tripartite multidrug efflux pump. Proc Natl Acad Sci (USA) 106:7173-7178
  18. [18] Pei et al (2011) Structures of sequential open states in a symmetrical transition of the ToIC exit duct. Proc Natl Acad Sci (USA) 108:2112-2117
  19. [19] Research articles available on Google Scholar, including h-index and i-10 index.