Colfran
| Math | cynnyrch llaeth, bwyd |
|---|---|
| Deunydd | llaeth, rennet, finegr, sudd lemwn |
| Dynodwyr | |

Ceir gwahaniaeth barn ar y term am curd yn y Gymraeg; gelwir y cynnyrch yn ceuled, caul[1] neu colfran[2]; yn ôl gwefan Byd Term Cymru defnyddir colfran (er enghraifft caws colfran) ar gyfer cynnyrch llaeth, a ceuled ar gyfer cynnyrch di-laeth (er enghrifft, ceuled lemwn (lemon curd))[3] a wneir trwy geulo llaeth gyda rened neu furum fel ei fod yn gwahanu, a chymryd y rhan hylifol (a elwir yn faidd) i ffwrdd.[4][5] Bydd llaeth sydd wedi'i adael i fynd yn sur hefyd yn gwahanu'n naturiol yn geuled a maidd. Defnyddir ceuled i wneud caws. Gellir bwyta ceuled a maidd gyda'i gilydd fel pryd (gelwir hefyd yn caws a gleision, caws maidd, ceuled a maidd).[1]
Disgrifia Gwasg Prifysgol Cymru 'ceuled' fel: "cywair llaeth [rennet], cyweirdeb, sylwedd a wneir drwy sychu pilionen stumog llo a rhai creaduriaid eraill ac a ddefnyddir am ei fod yn cynnwys math o eples i geulo neu gawsio llaeth; caul, yr hyn a geulir, sieli; tewychiad, tolcheniad".[6]
Cynhyrchu
[golygu | golygu cod]Gall colfran fod yn gynnyrch llaeth terfynol neu'r cam cyntaf mewn gwneud caws.[7] Gellir achosi'r ceulo trwy ychwanegu rened, 'culture', neu unrhyw sylwedd asidig bwytadwy fel sudd lemwn neu finegr, ac yna gadael iddo geulo. Mae'r asidedd cynyddol yn achosi i'r proteinau llaeth (casein) fynd yn fasau solet, neu geuled. Bydd llaeth sydd wedi'i adael i suro (llaeth amrwd yn unig neu laeth wedi'i basteureiddio gyda bacteria asid lactig ychwanegol) hefyd yn cynhyrchu ceuled yn awtomatig, a chynhyrchir cawsiau llaeth sur fel hyn.[8]
Mae cynhyrchu colfran caws yn un o'r camau cyntaf mewn gwneud caws; mae'r colfran yn cael eu gwasgu a'u draenio i symiau amrywiol ar gyfer gwahanol arddulliau o gaws a chyflwynir gwahanol asiantau eilaidd (mowldiau ar gyfer cawsiau glas, ac ati) cyn i'r heneiddio dymunol orffen y caws. Yr hylif sy'n weddill, sy'n cynnwys proteinau maidd yn unig, yw'r maidd. Mewn llaeth buwch, mae 90 y cant o'r proteinau yn gaseinau. Gellir defnyddio ceuled mewn pobi neu gellir ei fwyta fel byrbryd.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Cwarc - math o gaws
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 "curd". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 11 Awst 2026.
- ↑ "colfran". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 11 Awst 2026.
- ↑ "Ceuled". Byd Termau Cymru gwefan Llywodraeth Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Awst 2026. Cyrchwyd 11 Awst 2026.
- ↑ Darpan, Pratiyogita (Chwefror 2004), "Food and Drink Products of Biotechnology", Competition Science Vision: 1661, https://books.google.com/books?id=POgDAAAAMBAJ&pg=PA1661, adalwyd 14 Chwefror 2010
- ↑ Driscoll, Michael; Meredith Hamiltion, Marie Coons (May 2003). A Child's Introduction to Poetry. Efrog Newydd: Black Dog & Leventhal Publishers. t. 10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Rhagfyr 2008. Cyrchwyd 5 Gorffennaf 2013.
- ↑ "Ceuled". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 11 Awst 2026.
- ↑ "CFR - Code of Federal Regulations Title 21". Center for Devices and Radiological Research, U.S Food and Drug Administration. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Medi 2003. Cyrchwyd 5 Awst 2023.
- ↑ "Curd" (yn Saesneg). Food and Agricultural Organization of the United Nations. Cyrchwyd 3 Awst 2026.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- How to make Thick Curd cyflwyniad ar Youtube