Mae Coleg Prifysgol Llundain (Saesneg: University College London neu UCL) yn rhan o Brifysgol Llundain. Dyma'r sefydliad addysg uwch mwyaf yn Llundain a'r sefydliad mwyaf ar gyfer myfyrwyr â gradd yn y Deyrnas Unedig.[1]
Fe'i sefydlwyd ar 11 Chwefror1826, yn seiliedig ar syniadau radical yr athronydd Jeremy Bentham. Hon oedd y brifysgol gyntaf yn Lloegr i dderbyn myfrywyr nad oedd yn aelodau o Eglwys Loegr, a'r cyntaf i dderbyn merched. Lleolir ei phrif adeilad, a godwyd i gynlluniau neo-glasurol y pensaer William Wilkins, yn ardal Bloomsbury yng nghanol Llundain.
Mae ysgol gelf y Slade, lle astudiodd Gwen John ac Augustus John ymhlith nifer o arlunwyr eraill, yn rhan o Goleg Prifysgol Llundain. Fe'i sefydlwyd ym 1871 gyda rhodd gan y cyfreithiwr Felix Slade.