Neidio i'r cynnwys

Coleg Celf a Dylunio Central Saint Martins

Oddi ar Wicipedia
Coleg Celf a Dylunio Central Saint Martins
Enghraifft o:ysgol gelf, casgliad, sefydliad academaidd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1989 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganByam Shaw School of Art, Ysgol Ganolog Celf a Dylunio, Ysgol Gelf Saint Martin Edit this on Wikidata
LleoliadLlundain Edit this on Wikidata
Map
Aelod o'r  canlynolUniversity and College Union Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadUniversity of the Arts London Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain, Llundain Edit this on Wikidata
Enw brodorolCentral Saint Martins College of Art and Design Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthCamden Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.csm.arts.ac.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Coleg Celf a Dylunio Central Saint Martins (enw llawn swyddogol: Central Saint Martins College of Arts and Design a elwir yn Central Saint Martins, CSM neu ar lafar St Martin's College) yn goleg ymchwil o fewn Prifysgol y Celfyddydau Llundain. Mae gan yr ysgol enw da fel coleg rhagorol yn rhyngwladol, ac mae'n un o sefydliadau celf a dylunio mwyaf blaenllaw'r byd.[1]

Mae'r ysgol yn cynnig addysg sylfaenol, israddedig a graddedig. Y prif feysydd astudio yn CSM yw ffasiwn, tecstilau, celfyddydau gweledol a graffeg, dylunio cynnyrch a diwydiannol, pensaernïaeth a chelfyddydau perfformio (drama a dylunio llwyfan).[2]

Sefydliad

[golygu | golygu cod]

Rhennir Central Saint Martins yn bum cyfadran. Mae'r rhan fwyaf wedi'u lleoli ar gampws mawr newydd yr ysgol yn King's Cross, tra bod rhai gweithgareddau wedi'u lleoli yn Clerkenwell (campws Back Hill) ac Archway.

Cyfadrannau:

  • Ysgol Gelf
  • Ysgol Ffasiwn a Thecstilau
  • Ysgol Dylunio Graffig a Diwydiannol
  • Canolfan Ddrama Llundain
  • Ysgol Gelf Byam Shaw

Sefydlwyd y Central School of Art and Design (y Central School of Arts and Crafts gynt) gan Gyngor Sir Llundain ym 1896 i ddarparu addysg gelf arbenigol i weithwyr yn y diwydiant celf. Bwriadwyd i'r ysgol wasanaethu fel canolfan addysg celf, lle gallai myfyrwyr gwrdd ag artistiaid a chyflogwyr sefydledig. Roedd hyn yn rhan o'r Mudiad Celf a Chrefft ym Mhrydain ar ddiwedd y 19g. Unwyd yr Ysgol Gelf Frenhinol i Fenywod, a sefydlwyd ym 1842, â’r Central School of Art and Design ym 1908.

Sefydlwyd Ysgol Gelf Sant Martin ym 1854 gan fwrdd ymddiriedolwyr eglwys enwog St. Martin-in-the-Fields, gyda'r nod o ddatblygu addysg ddiwydiannol a'i huno â'r addysg gyffredinol a ddarperir gan yr ysgolion eglwysig. Gwelwyd addysg gelf fel rhan o addysg ddiwydiannol prentisiaid. "Daeth Coleg St. Martin's yn annibynnol ar yr eglwys ym 1859, a chymeradwywyd ef gan Gyngor Sir Addysg Dechnegol Llundain ym 1894. Yn y pen draw, daeth yr ysgol i gael ei chydnabod yn un o'r ysgolion celf mwyaf blaenllaw, lle cafodd llawer o arlunwyr gorau'r cyfnod eu haddysg.[3]

Unodd Central School of Art and Design a "St. Martins" ym 1989. Yn hydref 2011, unwyd y rhan fwyaf o safleoedd niferus yr ysgol yn gampws cyffredin mawr yn King's Cross yng ngogledd canol Llundain.

CSM a diwylliant poblogaidd

[golygu | golygu cod]

Gwnaeth y band pync y Sex Pistols eu hymddangosiad cyhoeddus cyntaf yn adeilad presennol Coleg St Martin's yn Charing Cross Road ar 6 Tachwedd 1975.[4]

Rhyddhaodd y band roc amgen Saesneg, Pulp, y gân "Common People" ym 1995. Mae geiriau'r gân yn dechrau gyda:[5]

"She came from Greece she had a thirst for knowledge, // she studied sculpture at Saint Martin's College, // that's where I, // caught her eye."

Mae’r gân wedi’i hysbrydoli’n rhannol gan brofiadau’r canwr Pulp Jarvis Cocker, ei hun fel myfyriwr yn CSM rhwng 1988-91.

Cyn fyfyrwyr enwog

[golygu | golygu cod]

Detholiad o'r cyn-fyfyrwyr enwog bu'n astudio yn y Coleg:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Central Saint Martins College of Arts and Design". Saatchi Gallery. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-19. Cyrchwyd 2012-05-20.
  2. "University of the Arts London: Strategy 2010-2015" (pdf). University of the Arts London. 2010. Cyrchwyd 2012-05-20.
  3. "St Martin's School of Art". Archives in London and the M25 area. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-21. Cyrchwyd 2012-05-20.
  4. Perry, Andrew (2005-11-03). "Where the Sex Pistols fired punk's first furious shots". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 2012-05-20.
  5. "Pulp Common People". Youtube. 2012.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]