Coleg Brenhinol y Meddygon
Gwedd
| Math | cymdeithas feddygol, sefydliad addysgiadol, sefydliad |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Camden |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.5258°N 0.145°W |
| Cod post | NW1 4LE |
![]() | |
Cymdeithas broffesiynol ar gyfer meddygon yn y Deyrnas Unedig yw Coleg Brenhinol y Meddygon (Saesneg: Royal College of Physicians). Ei nod yw gwella arfer meddygaeth, yn bennaf trwy ddarparu achrediad i feddygon trwy arholiadau.
Fe'i sefydlwyd ym 1518 gan Siarter Brenhinol o Harri VIII, ac fe osododd y safon ryngwladol gyntaf wrth ddosbarthu afiechydon. Mae ei lyfrgell yn cynnwys testunau meddygol o ddiddordeb hanesyddol mawr. Mae ganddo hefyd amgueddfa ar hanes meddygaeth.[1]
Lleolir y sefydliad wrth ymyl Regent's Park, Llundain. Dyma un o'r ychydig adeiladau a godwyd ers yr Ail Ryfel Byd i gael statws rhestredig Gradd I; fe'i dyluniwyd gan y pensaer Syr Denys Lasdun.

