Neidio i'r cynnwys

Coleg Bala-Bangor

Cyfesurynnau: 53°13′41″N 4°08′02″W / 53.228°N 4.134°W / 53.228; -4.134
Oddi ar Wicipedia
Coleg Bala-Bangor
Mathcoleg diwinyddol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1889 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAthrofa'r Annibynwyr, 1842-1869, Poplars Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.228°N 4.134°W Edit this on Wikidata
Map

53°13′41″N 4°08′02″W / 53.228°N 4.134°W / 53.228; -4.134

Coleg hyfforddi diwinyddol oedd Bala-Bangor yn perthyn i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Fe'i sefydlwyd ym 1841 yn Llanuwchllyn,[1] yna symudodd i leoliad parhaol yn y Bala, Gwynedd ym 1842 dan brifathrawiaeth Michael Jones (1787–1853), a ddilynwyd gan ei fab Michael D. Jones (1822–1898).

Yn ystod prifathrawiaeth Michael D. Jones, torrodd ffrae allan rhwng dau garfan gystadleuol ynghylch cyfansoddiad yr athrofa – roedd Michael D. Jones a'i ddilynwyr eisiau cadw a glynu wrth yr hen gyfansoddiad ond roedd y Parch. John Thomas o Lerpwl a'i ddilynwyr eisiau gorfodi cyfansoddiad newydd ar yr athrofa. Dadl Michael D. Jones oedd y y byddai cynllun y Parch. John Thomas wedi arwain at bresbytereiddio'r athrofa ac eglwysi'r Annibynnwyr yn gyffredinol. Arweiniodd y ffrae hon at rwyg ac am gyfnod roedd gan yr Annibynwyr ddau athrofa yn y Bala, athrofa Thomas Lewis ym Mhlasyndre ac athrofa Michael D. Jones ym Modiwan. Ond erbyn 1886 roedd athrofa Thomas Lewis wedi symud i Fangor. Ymddeolodd Michael D. Jones ym 1892 a pharatoodd hyn y ffordd i uno'r ddau athrofa unwaith eto a'r tro hwn ym Mangor gan egluro'r enw eclectig: "Bala-Bangor".

Arhosodd y coleg ym Mangor tan iddi gau ym 1989 ac erbyn hynny roedd o dan brifathrawiaeth R. Tudur Jones, yr olaf yn y llinach nodedig o brifathrawon i wasanaethu eglwysi'r Annibynnwyr yng Nghymru. Caewyd y coleg yn bennaf oherwydd diffyg galw am ddau athrofa i'r Annibynnwyr yng Nghymru. Cynigiodd y Coleg Coffa (ar ôl symud o Aberhonddu i Abertawe ac yna i Aberystwyth) leoliad mwy canolog i Goleg Unedig wasanaethu eglwysi'r Annibynnwyr ledled Cymru. Drwy gydol y 1990au, arhosodd y Coleg Unedig yn Aberystwyth, tan iddo gau – symudodd y coleg yn ôl i Fangor dan oruchwyliaeth y Parch. Euros Wyn Jones (1950-2018).[2]

Cyn-fyfyrwyr

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Alan P. F. Sell, Philosophy, dissent and nonconformity 2003 Page 128 "the Bala College, begun at Llanuwchllyn in 1841 and continued at Bala from 1842, with Michael Jones as its first ... "
  2. "Marw'r Athro Euros Wyn Jones… ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 68". Golwg360. 2018-12-04. Cyrchwyd 2025-10-16.