Col du Grand Colombier

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Col du Grand Colombier
Cyclistes dans l'ascension du Grand Colombier.jpg
Math Bwlch Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ain Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ffrainc Ffrainc
Uwch y môr 1,498 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 45.9036°N 5.7619°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynydd Jura Edit this on Wikidata

Bwlch yw'r Col du Grand Colombier (uchder: 1,501 medr, neu 4,925 troedfedd), a leolir ym mynyddoedd Jura yn Ffrainc.

Lleolir y bwlch ar ben mwyaf deheuol y Jura yn massif y Grand Colombier. Ynghyd â Col du Chasseral, dyma'r fwlch ffordd uchaf yn y Jura. Croesai rhwng y Grand Colombier (uchder: 1,531 medr, neu 5,023 troedfedd) a'r Croix du Colombier (ucher: 1,525 medr, neu 5,003 troedfedd), a ellir ei gyrchu ar lwybr o'r bwlch.

Mae golygfeydd o gopa'r bwlch, i lawr i ddyffryn Rhône, Llyn Bourget a cheunant Val-de-Fier, neu y ffordd arall gweler copaon yr Alpau.

Rasio beiciau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae hon yn un o'r bylchau caletaf i'w ddringo yn Ffrainc, gyda rhai adrannau dros 20% ar yr esgynniad o Artemare a Virieu-le-Petit ar yr ochr Bugey (gorllewinol).[1] Defnyddir y bwlch yn aml mewn rasus beic ar y ffordd, gan ymddangos yn gyson yn y Tour de l'Ain, a defnyddir hefyd yn y Critérium du Dauphiné a'r Tour de l'Avenir.

O Culoz ar yr ochr deheuol, mae'r esgynniad yn 18.3 cilomedr, gan godi 1,255 medr, gyda llethr o 6.9% ar gyfartaledd,[2] ond gyda rhai adrannau o 12%.[3] Dyma'r esgynniad a ddefnyddwyd yng nghymal 5 Critérium du Dauphiné 2012[4] a chymal 10 o Tour de France 2012.[3]

Gellir cyrraedd y Col hefyd o Anglefort ar yr ochr dwyreiniol, gyda esgynniad o 15.2 cilomedr o hyd, yn codi 1,205 medr ar gyfartaledd o 7.9%.[5]

Tour de France[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymwelwyd gan y Tour de France am y tro cyntaf yn ystod Cymal 10 o Tour 2012[6] fel esgynniad Hors Catégorie.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Col du Grand Colombier: Artemare. www.climbbybike.com. Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2012.
  2.  Col du Grand Colombier: Culoz. www.climbbybike.com. Adalwyd ar 3 July 2012.
  3. 3.0 3.1  Mountain passes & Hills: Stage 10. Tour de France. Amaury Sport Organisation. Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2012.
  4. Ben Atkins. "Arthur Vichot takes his biggest ever victory in breakaway stage five", VeloNation, VeloNation LLC, 8 Mehefin 2012.
  5.  Col du Grand Colombier: Anglefort. www.climbbybike.com. Adalwyd ar 3 Gorffennaf 2012.
  6.  STAGE 10: Mâcon – Bellegarde-sur-Valserine. Stage by stage. Tour de France 2012. Adalwyd ar 31 Mai 2012.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]