Coimisinéir Teanga
Enghraifft o'r canlynol | swydd |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2004 |
Pencadlys | An Spidéal |
Gwefan | https://www.coimisineir.ie/ |
Mae'r Coimisinéir Teanga (Cymraeg: "Comisynydd Iaith") yn swyddfa a grëwyd gan Acht na dTeangacha Oifigiúla 2003 ("Deddf Ieithoedd Swyddogol; Saesneg: Official Languages Act) Gweriniaeth Iwerddon i hyrwyddo a diogelu hawliau ieithyddol siaradwyr Gwyddeleg a Saesneg yn Iwerddon. Penodir y Coimisinéir gan Arlywydd Iwerddon. Gelwir hefyd yn Oifig an Choimisinéara Teanga (Swyddfa'r Comisinydd Iaith) a sefydlwyd yn 2004.
Mae pencadlys y Comisiynydd ym mhentref An Spidéal, ger dinas Gaillimh yng ngorllewin y Weriniaeth. Mae An Spidéal yn rhan o Gaeltacht ardal Conamara. Bu'r penderfyniad i leoli'r pencadlys yn y Gaeltacht yn benderfyniad bwriadol i hyrwyddo'r iaith a gwaith yn yr ardaloedd Gwyddeleg a wynebodd diboblogi hanesyddol.
Swyddogaeth
[golygu | golygu cod]Mae swyddogaethau'r Comisinynydd yn dilyn rhai Comisiynydd y Gymraeg. Gwaith y Coimisinéir yn bennaf yw "plismona" erthyglau'r Ddeddf, sy'n rhoi grym deddfwriaethol i ddiffiniad Cyfansoddiad Iwerddon o Wyddeleg fel "Iaith swyddogol gyntaf" y wlad a Saesneg fel yr "ail iaith swyddogol". Mae swyddfa'r Comisiynydd yn datblygu cynlluniau iaith ar gyfer cyrff cyhoeddus i sicrhau eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau i siaradwyr y ddwy iaith swyddogol. Nid yw cyrff preifat wedi’u cynnwys yn swyddogol yn y Ddeddf ond mae’n gwneud darpariaethau ar gyfer ymestyn cymhwysedd y Ddeddf yn y dyfodol.
Mae'r Comisiynydd yn cydweithio, craffu a bwydo i strategaethau eraill Llywodraeth Iwerddon. Ymysg y rhain mae Strategaeth 20 Mlynedd ar gyfer y Wyddeleg a lansiwyd gan y Taoiseach ar 21 Rhagfyr 2010. Nod y strategaeth yw cynyddu nifer y bobl sy’n defnyddio’r Wyddeleg yn ddyddiol y tu allan i’r system addysg i 250,000 o bobl dros yr 20 mlynedd nesaf. Gwnaeth y Coimisineir argymhellion i’r ymgynghorwyr sy’n cynghori ar baratoi’r strategaeth 20 mlynedd ar gael yma.[1]
Pwerau'r Comisiynydd
[golygu | golygu cod]Mae pwerau'r Coimisinéir Teanga yn Iwerddon yn debyg iawn i rai Ombwdsmon. Mae gan y Comisiynydd y pŵer i geisio gwybodaeth, dogfennau neu dystiolaeth lafar, a fyddai’n cynorthwyo i gyflawni ei ddyletswyddau. Gallai unrhyw un a geir yn euog o wrthod neu fethu â chydweithredu â’r Comisiynydd gael dirwy o €2,000 neu/a’i garcharu am 6 mis. Ond polisi'r Comisiynydd yw pwysleisio partneriaeth a chydweithrediad ac nid bygythiadau cyfreithiol.[2]
Cydweithio rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Mae Coimisinéir Teanga yn aelodau o Gymdeithas Ryngwladol y Comisinwyr Iaith (IALC).
Cyd-destun
[golygu | golygu cod]Mae'r Comisinydd yn rhan o rwydwaith o sefydliadau o blaid yr iaith Wyddeleg megis Foras na Gaeilge er ei bod yn annibynnol arnynt.
Comisinwyr
[golygu | golygu cod]- Seán Ó Cuirreáin, 2004–2014
- Rónán Ó Domhnaill, 2014–2023
- Séamas Ó Concheanainn, 2023-presennol
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Comisiynydd y Gymraeg
- Comisiynydd yr iaith Maori - enw swyddogol, Te Taura Whiri i te Reo Māori
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "About the Language". Gwefan Coimisinéir Teanga. Cyrchwyd 11 Mehefin 2024.
- ↑ "Alt 10A FÓGRAÍOCHT AG COMHLACHTAÍ POIBLÍ FAISNÉIS ÓN GCOMHLACHT POIBLÍ (Adran 10A HYSBYSEBU GAN GYRFF CYHOEDDUS GWYBODAETH GAN Y CORFF CYHOEDDUS)". Gwefan y Comisiynydd. Cyrchwyd 11 Mehefin 2024.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- An Coimisinéir Teanga: Gwefan Swyddogol
- https://x.com/ceartateanga ar Twitter
- Coimisineir Teanga ar Youtube