Neidio i'r cynnwys

Cofio Cynan

Oddi ar Wicipedia
Cofio Cynan
Enghraifft o:cyflwyniad theatrig
Dyddiad cynharaf1970
GwladCymru
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
Dynodwyr
Rhaglen yr Eisteddfod

Cyflwyniad llenyddol gan Gwmni Theatr Cymru ym 1970 oedd Cofio Cynan i gofio'r bardd a'r llenor Albert Evans-Jones. Llwyfannwyd y cyflwyniad am y tro cyntaf yn ystod "Wythnos y Cyhoeddi 1970". Nodwyd yn y Rhaglen bod "3 perfformiad yn unig ym Methesda, Bangor a Porthaethwy."[1] Cafwyd wythnos o berfformiadau yn dilyn hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Aman 1970. Dathliad o farddoniaeth a gwaith Cynan oedd prif fwriad y cynhyrchiad, gyda chyflwyniadau gan actorion a diddanwyr enwog y cyfnod megis Hogia'r Wyddfa, Y Telynegion, W. H. Roberts, Stewart Jones, Gwyn Parry, Gaynor Morgan Rees, J. O. Roberts, Aled Lloyd Davies ac Alwyn Samuel. Lluniwyd y cyflwyniad gan Wilbert Lloyd Roberts.[2] Yn ystod y cyflwyniad, cafwyd y ddawns flodau a chyflwyno yr Aberthged a'r Corn Hirlas. Roedd y cynhyrchiad yma yn ddilyniant i gyflwyniad tebyg gan Gwmni Theatr Cymru am Daniel Owen ym 1969.

Clawr record Hogia'r Wyddfa

Disgrifiad

[golygu | golygu cod]

Roedd y cyflwyniad wedi'i rannu fel â ganlyn :

Y Rhan Gyntaf

Yr ewyn wrth fy nhroed

Gogoniannau'r Wlad

  • Golud
  • Llanfihangel Bachellaeth
  • Capel Nanhoron
  • Rhan o Mab y Bwthyn

Euraidd wallt a gruddiau rhos

Pluen ar y dŵr

  • Gweddi Pysgodwr
  • Cywydd i gyfarch cyd-bysgodwr
  • Teifi

Y llyfr gyda'r claspiau pres

Yr Ail Ran

Gynnau du Gehenna

Man gwyn man draw

Brawdoliaeth yr Awen

Cynhyrchiad

[golygu | golygu cod]

Wilbert Lloyd Roberts oedd yn gyfrifol am drefnu a chyfarwyddo'r cynhyrchiad, gyda Morfudd Maesaleg fel y delynores, a threfnydd Y Telynegion. Einir Rowlands oedd wedi trefnu'r ddawns flodau.[2] Roedd Sharon Morgan yn gweithio "ym mlaen y tŷ" yn ystod yr Eisteddfod.[3] Cyfansoddodd Hogia'r Wyddfa ganeuon arbennig ar eiriau Cynan ar gyfer y cynhyrchiad, caneuon a ddaeth yn boblogaidd iawn fel 'Aberdaron', 'Hwinagerddi' a 'Tresaith'. Rhyddhawyd record ganddynt ar label Recordiau'r Dryw yn cynnwys y tair cân, wedi galw mawr. Arwel Jones oedd wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rhaglen Cofio Cynan. 1970.
  2. 2.0 2.1 Rhaglen Cofio Cynan. Cwmni Theatr Cymru. 1970.
  3. Morgan, Sharon (2011). Hanes Rhyw Gymraes. Y Lolfa.
  4. Record Hogia'r Wyddfa. Recordiau'r Dryw. 1972.