Cofadail Michael Collins ac Arthur Griffith, Tŷ Leinster

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mr John McCormack yn gosod torch mewn cof am Michael Collins a Arthur Griffith ar y Gofadail wreiddiol ar Lawnt Leinster

Bu Cofadail i Michael Collins ac Arthur Griffith, dau o arweinwyr Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon ar Lawnt Tŷ Leinster, cartref Deddfwrfa Oireachtas Gweriniaeth Iwerddon.

Codi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofadail newydd, "anweledig" i Arweinwyr Annibyniaeth Iwerddon. Ar safle'r gofadail wreiddiol i Collins a Griffith

Dadorchuddwyd cofadail i Michael Collins ac Arthur Griffith yn yr ardd yng nghefn Leinster House, Dulyn yn 1923. Ceir clip ffilm fer o'r dadorchuddio yn 1923.[1]

Codwyd hi i gofio am ddau o sefydlwyr Gwladwriaeth Rydd Iwerddon ac oedd wedi marw yn 1922 - wedi ei ladd gan filwyr 'Gwrth-Cytuneb' yr IRA, oedd yn gwrthwynebu Cytundeb Iwerddon gyda Phrydain, yn achos Michael Collins, a gan straen (yn ôl rhai) yn achos Arthur Griffith.

Codwyd y gofadail yng nghefn adeilad Tŷ Leinster oedd newydd ei wneud yn gartref i senedd Iwerddon yn 1922. Dadorchuddwyd hi ar 13 Awst 1923 [2] mewn seremoni rwysgfawr a ffilmiwyd gan wasanaeth newyddion Pathé. [3]

Dyluniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylunwyd y gofeb gan George Atkinson, Prifathro Ysgol Gelf Fetropolitan Dulyn, 1918-1937, a Chyfarwyddwr gyntaf Coleg Gelf Genedlaethol Iwerddon. Dyluniwyd hi fel cofeb dros-dro. Adeiladwyd y gofadail o bren ai gorchuddio â sment. Roedd ar ffurf Croes Geltaidd 12 metr o uchder gyda 'meini' naill ochr i'r groes. Ar y meini ceir penddelwau proffil ochr o Griffith a Collins wedi eu gwneud o blaster a modelu gan Albert Power.[4][5]. Ceir arysgrifiad mewn Gwyddeleg ar ganol y trawst y groes.[6]

Yn dilyn dienyddio Kevin O’Higgins yn 1927, ychwanegwyd trydydd plac.

Pan ddaeth plaid Fianna Fail, sef blaid y bobl oedd yn gwrthwynebu'r Cytuned ac a bu'n ymladd yn y Rhyfel Cartref yn erbyn lluoedd llywodraeth newydd y Wladwriaeth Rydd o dan arweiniad Collins a Griffith, roedd dyfodol y gofadail yn ansicr. Gwelwyd y gofadail yn arwydd pryfoclyd gan y wladwriaeth yn erbyn y rhai bu'n gwrthwynebu ac yn ymladd yn erbyn y Cytundeb.

Symud[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y gofeb yn ffocws ralïau a seremonïau cofio i ddau o sefydlwyr ac arwyr y wladwriaeth newydd. Ond yn yr 1930au, gyda Fianna Fail mewn grym ers 1932 ac wrth i aelodau o'r Cumann na nGael a'r blaid bu'n llywodraethu gan fwyaf hyd at 1932, greu mudiad lled-ffasgadd yr Army Comrades Association (a adnabwyd fel y Blueshirts) cafwyd pryder y byddai coup d’etat yn erbyn Fianna Fail. Baniwyd y ralïau.

Yn 1939 (neu 1940), symudwyd y gofadail gan de Valera.[7][8]. Codwyd obelisg dennau, tal, 60 troedfedd, yn ei le yn 1950 yn y man lle bu'r gofadail wreiddiol. Ychwanegwyd enw Kevin O'Higgins, sylfaenydd y Garda Síochána (heddlu'r wladwriaeth) i'r ddau arall.[9] Galwyd y gofadail newydd yma yn "anweledig" yn ôl rhai[10]

Llenwyd bwlch y gofadail wreiddiol yn 1950 gydag un newydd, symlach sef obelisg a ddylundwyd gan Raymond McGrath in 1950.[11]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://www.britishpathe.com/video/heroes-honoured-1/query/Griffith
  2. https://www.flickr.com/photos/nlireland/16307907087
  3. https://www.britishpathe.com/video/heroes-honoured-1/query/Griffith
  4. http://archiseek.com/2013/1951-cenotaph-leinster-house-dublin/
  5. http://catalogue.nli.ie/Record/vtls000299123
  6. http://catalogue.nli.ie/Record/vtls000722255
  7. https://irishhistorypodcast.ie/5-controversial-dublin-monuments/
  8. http://catalogue.nli.ie/Record/vtls000299123
  9. https://www.flickr.com/photos/nlireland/16307907087
  10. https://www.broadsheet.ie/2013/08/22/monumental-indifference/
  11. http://archiseek.com/2013/1951-cenotaph-leinster-house-dublin/