Coetiau

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Coets (gêm))
Jump to navigation Jump to search
Chwarae coetiau ym Merthyr Tudful. Ffotograff gan Geoff Charles (1951).

Gêm draddodiadol yw coetiau, coetennau neu goets a chwaraeir drwy daflu cylchoedd am bostyn neu bigyn.

Mae'n bosib bod y gêm yn dyddio'n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain. Yn yr Oesoedd Canol bu'r werin yn taflu pedolau am begiau haearn.[1]

Rhoddir yr enw Coetan Arthur ar sawl cromlech, er enghraifft Carreg Coetan Arthur, a gredir i'r Brenin Arthur eu ffurfio drwy daflu coetan enfawr arnynt.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Quoits. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Mai 2018.