Coed-yr-iarll, Sir Fynwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ardal wledig yn Sir Fynwy, de-ddwyrain Cymru, yw Coed-yr-iarll (Saesneg: Earlswood). Mae wedi'i lleoli bum milltir i'r gogledd-orllewin o Gas-gwent, o fewn plwyf Drenewydd Gelli-farch ac i'r dwyrain o ardal goediog Coed Gwent.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Capel Methodistaidd Cwm Coed-yr-iarll

Cyn y goresgyniad Normanaidd yng Nghymru, roedd yr ardal dan goed. Ar adeg Llyfr Dydd y Farn, roedd yn rhan o ystadau Durand, Siryf Caerloyw. Aeth ef a'i ddisgynyddion ati i glirio'r coed, gan sefydlu pentref Drenewydd Gelli-farch (Shirenewton, neu "Sheriff's Newton", yn Saesneg). Yn ddiweddarach yn y 12fed ganrif roedd Milo Fitzwalter (Miles de Gloucester), Iarll Henffordd, yn Siryf, a datblygodd yr enw Coed-yr-iarll.

Y pentref heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]

Heddiw mae gan y pentref ganolfan gymunedol fawr a adeiladwyd gyda chyfraniadau gan y cyhoedd, er cof am drigolion o'r plwyf a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd.