Codlys Nees

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Codlys nees)
Codlys Nees
Calypogeia neesiana
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Calypogeiaceae
Genws: Calypogeia
Rhywogaeth: C. neesiana
Enw deuenwol
Calypogeia neesiana

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Codlys Nees (enw gwyddonol: Calypogeia neesiana; enw Saesneg: Nees' pouchwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Yng ngwledydd Prydain, mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, gogledd-orllewin Lloegr a'r Alban a cheir un neu ddau o lefydd hefyd ar arfordir deheuol Lloegr. Mae hefyd i'w chael yn Iwerddon.

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Er mwyn adnabod y rhywogaeth hon, mae'n rhaid edrych arni drwy feicrosgop. Mae coesynnau'r Codlys nees yn 1.5–3 mm o led, gyda dail 1.5 mm o hyd a 1.3 mm o led.

Cynefin[golygu | golygu cod]

Fel y Codlys meylan, mae'n blanhigyn sy'n hoffi tir asidig e.e. cors a gall hefyd dyfu ar lethrau mawnog neu ar glogwyni sydd wedi'u gorchuddio â hwmws. Yn fwy anaml fe'i ceir yn y cysgod ar foncyffion sy'n pydru.

Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

Safonwyd yr enw Codlys Nees gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.