Codi Stêm (panto)
| Enghraifft o: | drama, pantomeim |
|---|---|
| Crëwr | Cwmni Theatr Cymru |
| Dyddiad cynharaf | 1987 |
| Awdur | Gruffudd Jones a Gwen Ellis |
| Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | Hwyl a Fflag |
| Pwnc | pantomeim |
| Dechreuwyd | 1987 |
| Genre | Pantomeim Cymraeg |
| Cyfarwyddwr/wyr | Wyn Bowen Harries |
| Cyfansoddwr | Geraint Cynan |
| Dynodwyr | |
"Sioe Nadolig i'r teulu" a lwyfannwyd gan Hwyl a Fflag ym 1987 yw Codi Stêm. Cyfansoddwyd y sioe gan Gruffudd Jones a Gwen Ellis a'r gerddoriaeth gan Geraint Cynan. Wyn Bowen Harries oedd y cyfarwyddwr. Dyma'r ail sioe neu bantomeim i Hwyl a Fflag lwyfannu yn sgil methiant Cwmni Theatr Cymru ym 1984.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]"Dyma sioe nadolig newydd sbon sydd yn symud fel Roced!", ebe taflen hysbysebu'r sioe, "Felly neidiwch ar fwrdd eich trên stêm ac ymunwch yn yr antur i ddod o hyd i'r iâr fawr felyn. Mae hi gymaint o angen eich cymorth ag yr oedd Jim Cro Crystyn y llynedd".[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y sioe gan Hwyl a Fflag yn ystod y Gaeaf 1987 a Gwanwyn 1988; cyfarwyddwr Wyn Bowen Harries; cast: Sera Cracroft, Dylan Davies, Morfudd Hughes, Siân James, Maldwyn John, Tom Richmond a Danny Grehan.