Clychau'r gog

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Clychau'r Gog)
Clychau'r gog
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Urdd: Asparagales
Teulu: Asparagaceae
Is-deulu: Scilloideae
Genws: Hyacinthoides
Rhywogaeth: H. non-scripta
Enw deuenwol
Hyacinthoides non-scripta
(L.) Chouard ex Rothm.

Planhigyn blodeuol yw Clychau'r gog (Lladin: Hyacinthoides non-scripta, neu'n gyfystyr Endymion non-scriptus, Scilla non-scripta). Ymysg ei enwau Cymraeg eraill mae 'Bwtias y Gog', 'Croeso Haf', 'Cennin y Brain', 'Clychau'r eos', a 'Glas y llwyn'. Mae'n lluosflwydd ac oddfog a'n blodeuo yn y gwanwyn. Mae'n gynhenid yn Ynysoedd Prydain, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Llydaw, a rhannau gogleddol a gorllewinol o Ffrainc. Ceir y rhywogaethau tebyg H. hispanica a H. italica yng Ngorynys Iberia a chyrion y Môr Canoldir yn ôl eu trefn.

Mae'r dail, a'r blodau (sy'n ymddangos ym misoedd Ebrill a Mai), yn tarddu o oddfyn. Mae bonau'r flodau oddeutu 10–30 cm o hir, a'n plygu tua'r ben. Mae siap cloch gan y blodau piwslas, gyda blychau paill melyn golau.

Ceir planhigion croesryw gyda H. hispanica, gan i hwnnw gael ei dyfu'n aml mewn gerddi ym Mhrydain. Mae pryder y gall hyn fygythio'r rhywogaeth cynhenid prydeinig. Gellir adnobod planhigion croesryw wrth eu dail a blodau mwy llydan, blodau llai pendilog gyda blychau paill tywyllach (mae blychau paill H. hispanica yn biws).

Yn y Deyrnas Unedig mae Clychau'r Gog yn rhywogaeth wedi'i amddiffyn dan ddeddf seneddol. Ni chaniateir tynnu oddfau, na masnachu mewn oddfau neu hadau.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: