Clwb Rygbi Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aberystwyth RFC
Aberystwyth RFC logo.gif
Enw llawn Clwb Rygbi Aberystwyth Rugby Football Club
Undeb Undeb Rygbi Cymru
Sefydlwyd 1947
Lleoliad Aberystwyth, Cymru
Maes/ydd Plascrug
Cadeirydd Tim Lewis
Hyfforddwr Iestyn Thomas, Ifan Thomas, Craig Turner and Rob Rudge.
Capten Arwel Lloyd
Cynghrair/au Adran 1 Gorllewin URC
2017-2018 5th[1]
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref
Gwefan swyddogol
www.aberystwythrfc.co.uk

Mae Clwb Rygbi Aberystwyth (Saesneg: Aberystwyth RFC) yn dîm rygbi'r undeb o dref Aberystwyth. Mae'r clwb yn aelod o Undeb Rygbi Cymru ac yn glwb bwydo ar gyfer ochr ranbarthol y Scarlets.[2]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu chware rygbi yn Aberystwyth ers diwedd y 19g [3] pan sefydlodd y Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth dîm rygbi.

Sefydlwyd Clwb Rygbi Aberystwyth ym 1947 [4] ac roedd y gêm gyntaf yn erbyn ail dîm Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth lle collodd y tîm newydd o'r dre 24-3.[5] Enillodd y clwb aelodaeth o Undeb Rygbi Cymru ym mis Mai 1954 a oedd yn caniatáu iddi gynnal gemau cystadleuol yn y dyfodol. Sefydlwyd clwb y tîm gyda chymorth benthyciad di-log deng mlynedd gan yr WRU ym 1960.

Mae arwyddlun y clwb yn darlunio fersiwn lliw glas o'r lle sydd ar faner Ceredigion gan nodi hanes a chysylltiad y clwb gyda'r dref a'r teulu Pryse, perchnogion stâd Gogerddan oedd perchen llawer o dir yng nghogledd Ceredigion a'r rheswm bod cymaint o dai tafarndai yng ngogledd y sir yn arddel yr enw Llew Du.

Timau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae gan y Clwb 500 o aelodau sy'n cynnwys oedolion a phlant. Mae ganddynt 2 tim i oedolion, 1 tim iau a 10 tim i blant lan at 16 mlwydd oed.[6]

Mae'r tîm cyntaf yn chwarae yn Adran 1 Gorllewin ("Division 1 West"), URC.[7]

Adeilad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r clwb wedi ei lleoli yn ardal Plas-crug o'r dref, rhwng Ysgol Gynradd Gymunedol Plascrug ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth. Adeiladwyd y Clwbfa gyntaf fel adeilad prefab yn 1960 on llosgodd yr adeilad hwnnw i'r llawr ac fe’i hailadeiladwyd yn y 1970au. Ers hynny, bu sawl helaethiad i'r adeilad gan gynnwys cyfleusterau newid newydd a lolfa.[8]

Oriel[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleolir maes chwarae C.R. Aberystwyth ar dir Plascrug rhyw un cilomedr o ganol tref Aberystwyth.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise, The Official History of the Welsh Rugby Union 1881–1981. ISBN 0-7083-0766-3.

Dolenni Allannol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Rugby Union Stub.svg Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.