Clwb Golff Llaneirwg
| Enghraifft o: | clwb golff |
|---|---|
| Gwlad | |
| Dechrau/Sefydlu | 1937 |
![]() | |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | Llaneirwg |
| Dynodwyr | |
Mae Clwb Golff Llaneirwg (Saesneg: St Mellons Golf Club) yn glwb golff a leolir i'r dwyrain o faestref Llaneirwg yng Nghaerdydd tuag at Casnewydd. Lleolir y clwb yn Llaneirwg, Caerdydd, CF3 2XS.
Y cwrs
[golygu | golygu cod]
Mae hyd y cwrs oddeutu 6,200 llath ac mae'n gwrs parcdir. Mae'n gwrs 18 twll, 70 par, a ddylunwyd gan y cynllunydd cyrsiau golff, Henry Shapland Colt bu hefyd yn gyfrifol am ddylunio cyrsiau golff ar y chwe cyfandir gan gynnwys rhai adnabyddus ar ynysoedd Prydain fel Wentworth Club, Sunningdale, Muirfield, Royal Portrush, a'r Royal Liverpool. Mae'r cwrs yn adnabyddus am ei siâp “meillionen” amlinellol gyda 18 twll unigryw ynghyd â chyfleusterau clwb da.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Agorodd Clwb Golff Llaneirwg ym 1937 ac fe’i cynlluniwyd gan H.S. Colt. gellir dadlau mai'r pensaer cwrs golff gorau a fu erioed. Cynlluniodd dros 300 o gyrsiau ar draws y byd.
Adeiladwyd y cwrs ar dir oedd yn cynnwys hen adeilad Llwynarthan - adeilad hir, deulawr, â stwco gyda thoeau talcennog. Mae bellach wedi ei hadnewyddu ac yn gweithiredu fel Gwesty St Mellons.[2]
Daeth Llaneirwg yn Glwb Aelodau ym 1964, gan wneud 2014 yn hanner canmlwyddiant y sefydliad.[3]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Clwb Goff Llaneurwg
- @StMellonsGolfClub tudalen Facebook y Clwb
- Lleoliad y clwb ar wefan Coflein Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "St Mellons Golf Club History". Gwefan Clwb Golff Llaneurwg. Cyrchwyd 8 Medi 2024.
- ↑ "St Mellons Golf Club". Gwefan Coflein Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Cyrchwyd 8 Medi 2024.
- ↑ "St Mellons Golf Club". Golf Day Guide. Cyrchwyd 8 Hydref 2024.
