Cliradain y cwrens
Gwedd
| Synanthedon tipuliformis | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Arthropoda |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Lepidoptera |
| Teulu: | Sesiidae |
| Genws: | Synanthedon |
| Rhywogaeth: | S. tipuliformis |
| Enw deuenwol | |
| Synanthedon tipuliformis (Clerck, 1759)[1] | |
| Cyfystyron | |
| |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw cliradain y cwrens, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy cliradenydd y cwrens; yr enw Saesneg yw Currant Clearwing, a'r enw gwyddonol yw Synanthedon tipuliformis.[2][3] Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae cliradain y cwrens yn lindysyn sydd yn bwydo tu fewn i goesynnau llwyni cwrens duon, cwrens cochion ac eirin Mair, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Checklist of the Sesiidae of the World
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
