Neidio i'r cynnwys

Clifford Allen, Barwn 1af Allen o Hurtwood

Oddi ar Wicipedia
Clifford Allen, Barwn 1af Allen o Hurtwood
Ganwyd9 Mai 1889 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mawrth 1939 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Berkhamsted Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Lafur Annibynnol Edit this on Wikidata
TadWalter Allen Edit this on Wikidata
MamFrances Augusta Baker Edit this on Wikidata
PriodMarjory Gill Allen Edit this on Wikidata
PlantJoan Collette Clifford Allen Edit this on Wikidata

Roedd Reginald Clifford Allen, Barwn 1af Allen o Hurtwood (9 Mai 1889 - 3 Mawrth 1939), yn wleidydd Cymreig a oedd yn aelod o'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP), ac yn heddychwr amlwg.[1]

Bywyd ac addysg gynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Clifford Allen yng Nghasnewydd yn fab i Walter Allen, dilledydd. Symudodd y teulu i Fryste o herwydd gwaith y tad. Addysgwyd Allen yn Ysgol Berkhamsted, Prifysgol Bryste a Peterhouse, Caergrawnt. Yn Geidwadwr yn ei ddyddiau cynnar daeth yn gadeirydd Cymdeithas Ffabiaid y brifysgol yn ei flwyddyn olaf yng Nghaergrawnt.

Yn fuan ar ôl ymadael a Chaergrawnt gyda gradd trydydd dosbarth, fe'i gwnaed yn Ysgrifennydd ac yna Rheolwr Cyffredinol y papur newyddion llafur The Daily Citizen rhwng 1911 a 1915. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf bu'n gadeirydd y Cymrodyr Gwrth Orfodaeth Filwrol, a chafodd ei garcharu fel gwrthwynebydd cydwybodol dair gwaith. Ym 1917 daeth mor sâl fel cafodd ei ryddhau o'r carchar. Aeth i fyw gyda Catherine Marshall a oedd hefyd yn sâl o or-waith. Roedd Marshall yn gobeithio y byddai eu perthynas yn parhau, ond daeth Allen a'r bartneriaeth i ben.[2]

Ar ôl y rhyfel, ef oedd Trysorydd a Chadeirydd y Blaid Lafur Annibynnol rhwng 1922 a 1926, bu'n gadeirydd cyhoeddwyr y papur newyddion the New Leader rhwng 1922 a 1926 a chyfarwyddwr y Daily Herald rhwng 1925 a 1930.

Fe'i codwyd i'r bendefigaeth fel y Barwn Allen o Hurtwood, o Hurtwood yn Swydd Surrey, ar 18 Ionawr 1932,[3] i roi hwb i gynrychiolaeth Llafur Cenedlaethol y Prif Weinidog Ramsay MacDonald yn Nhŷ'r Arglwyddi. Ym 1934 sefydlodd Grŵp y Pum Mlynedd Nesaf gyda'r bwriad o adlinio'r chwith blaengar ganolig yng ngwleidyddiaeth Prydain.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Priododd Marjory Gill ar 17 Rhagfyr 1921. Bu iddynt ferch.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Heb gael adferiad llwyr o'r diciâu a chafodd yn ystod ei gyfnod yn y carchar, bu farw'r Arglwydd Allen o Hurtwood mewn sanatoriwm yn y Swistir ym 1939, yn 49 oed. Heb fab i'w etifeddu bu farw'r ei deitl gydag ef.[4]

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]
  • Is Germany right and Britain wrong?, Chelsea : London : s.n., 1914.
  • Executive committee report to the members on the progress of the fellowship, No-Conscription Fellowship. London : No-Conscription Fellowship, 1915.
  • Presidential address by Clifford Allen to the National Convention of the No-Conscription Fellowship, 27 November 1915, No-Conscription Fellowship. London : National Labour Press, 1916.
  • Why I still resist: Leaflet (No-Conscription Fellowship), no. 5., No-Conscription Fellowship, Pelican Press, London : Printed for the No-Conscription Fellowship, 1917.
  • Putting socialism into practice : the President address, London : Independent Labour Party, 1924.
  • The I.L.P. and Revolution ... Reprinted from the Socialist Review., London : I.L.P. Publication Dept., 1925.
  • Socialism & the next Labour Government. The presidential address ... at the I.L.P. Annual Conference, 1925.,Independent Labour Party: London, 1925.
  • Labour's Future at Stake, London : G. Allen & Unwin, 1932.
  • Britain's political future; a plea for liberty and leadership, London, New York [etc.] Longmans, Green, 1934.
  • Effective pacifism, London : League of Nations Union, 1934.
  • The next five years : an essay in political agreement, with W Arnold Forster; A Barratt Brown; et al. London : Macmillan, 1935.
  • We did not fight : 1914-18 experiences of war resisters, edited by Julian Bell ; with a foreword by H.R.L. Sheppard ; contrib. by Lord Allen of Hurtwood ... [et al.]. London, 1935.
  • Peace in Our Time. An appeal to the International Peace Conference of June 16, 1936. London : Chatto & Windus, 1936.
  • The price of European peace, with Frank Ongley Darvall; Jan Christiaan Smuts. London [u.a.] : Hodge, 1937.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • David Boulton: Objection Overruled, Macgibbon & Kee, 1967
  • Martin Gilbert: "Plough My Own Furrow: The Story of Lord Allen of Hurtwood as told through his own writings and correspondence", London: Longmans, 1965
  • Thomas C Kennedy: The hound of conscience : a history of the No-Conscription Fellowship, 1914-1919, Fayetteville : University of Arkansas Press, 1981 ISBN 0-938626-01-9
  • Arthur Marwick: Clifford Allen: The Open Conspirator, Oliver & Boyd, 1964