Neidio i'r cynnwys

Clerigwr

Oddi ar Wicipedia
Clerigwr
Lluniau gan John Thomas o weinidogion Eglwys y Bedyddwyr yng Nghymru yn y 19g (oddeutu 1875).
Enghraifft o:ystadau'r deyrnas, grŵp, grŵp o bobl, dosbarth cymdeithasol, estate of the realm, religious group Edit this on Wikidata
Mathystadau'r deyrnas, galwedigaeth Edit this on Wikidata
Y gwrthwyneblaity Edit this on Wikidata
Yn cynnwysclerig, Q56404080, esgob Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Thesawrws y BNCF2978 edit this on wikidata
QuoraClergy edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Aelod o'r offeiriadaeth, y weinidogaeth, neu urdd grefyddol, yn enwedig yn yr eglwys Gristnogol, yw clerigwr[1] neu glerig.[2] Gall fod yn gyfrifol am arwain addoliad, gweinyddu sacramentau, pregethu, a darparu gofal bugeiliol i gymuned grefyddol. Daw'r gair o'r Lladin clericus, sy'n golygu "un crefyddol" neu "aelod o'r eglwys".[2] Yn y bôn, deillir o'r gair Groeg klēros, sef coelbren, yn y Testament Newydd, yn yr hanes o ddewis deuddegfed apostol i gymryd lle Jwdas Iscariot: "A hwy a fwriasant eu coelbrennau hwynt: ac ar Matheias y syrthiodd y coelbren; ac efe a gyfrifwyd gyda'r un apostol ar ddeg." (Actau 1:26).[3][4]

Ymhlith Cristnogion, rhennir yn hanesyddol rhwng y clerigwyr a'r lleygwyr, hynny yw, aelodau'r eglwys sydd heb eu hordeinio na'u cysegru. Yn yr Eglwys Gatholig, yr Eglwys Uniongred, a'r Eglwys Anglicanaidd, mae'r glerigiaeth yn cynnwys yr esgobaeth, yr offeiriadaeth, a'r ddiaconiaeth, a gall hefyd gynnwys aelodau o urddau crefyddol. Mae gan yr esgobion awdurdod dros yr is glerigwyr. Mewn eglwysi Protestannaidd anghydffurfiol, ac felly heb esgobion, mae'r glerigiaeth yn cynnwys gweinidogion a bugeiliaid.

Gall dyletswyddau clerigwr gynnwys arwain gwasanaethau crefyddol, pregethu a dysgu, gweinyddu sacramentau megis y bedydd a'r cymun, cynnig cyngor bugeiliol, a chynnal seremonïau priodas ac angladdau.

Er bod y term yn cael ei ddefnyddio'n bennaf mewn cyd-destun Cristnogol, mae rolau tebyg i’w gweld mewn crefyddau eraill. Er enghraifft, mae rabïaid mewn Iddewiaeth, imamiaid a mylahod mewn Islam, a lamas mewn Bwdhaeth yn cyflawni swyddogaethau crefyddol tebyg, er nad yw'r term "clerigwr" yn cael ei ddefnyddio’n ffurfiol yn y crefyddau hyn. Nid yw'r arweinwyr crefyddol hyn yn meddu ar yr un hierarchaeth, olyniaeth, neu ddyletswyddau swyddogol sydd i'w gael yn y glerigiaeth Gristnogol.[5]

Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd gan glerigwyr ran bwysig nid yn unig mewn crefydd ond hefyd mewn addysg, gwleidyddiaeth, a chofnodi hanes. Roedd llawer o ysgolheigion yn glerigwyr, ac roeddent yn gyfrifol am ysgrifennu llawysgrifau, cadw cofnodion, a chynnal llyfrgelloedd.

Heddiw, mae rôl y clerigwr yn parhau i esblygu. Yn ogystal â dyletswyddau crefyddol traddodiadol, mae llawer yn ymwneud â gwaith cymunedol, hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol, a darparu cwnsela a chefnogaeth emosiynol i unigolion a theuluoedd.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  clerigwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2026.
  2. 2.0 2.1  clerig. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2026.
  3. Elizabeth Knowles, The Oxford Dictionary of Phrase and Fable, "clergy".
  4. Beibl 1620
  5. John Bowker, The Concise Oxford Dictionary of World Religions, "clergy".