Clement Freud

Oddi ar Wicipedia
Clement Freud
GanwydClemens Rafael Freud Edit this on Wikidata
24 Ebrill 1924 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ebrill 2009 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylHampstead Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Sant Paul
  • Hall School
  • Dartington Hall School Edit this on Wikidata
Galwedigaethpen-cogydd, gwleidydd, cyflwynydd radio, awdur plant, ysgrifennwr, newyddiadurwr, perchennog bwyty Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadErnst Ludwig Freud Edit this on Wikidata
MamLucie Brasch Edit this on Wikidata
PriodJune Flewett Edit this on Wikidata
PlantEmma Freud, Matthew Freud, Nicola Mary Freud, Dominic Martin Freud Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Faglor Edit this on Wikidata

Darlledwr, llenor a gwleidydd oedd Syr Clement Raphael Freud (24 Ebrill 192415 Ebrill 2009). Roedd yn enwog am "ei olwg lechgïaidd, meddwl craf, a ffraethineb egr".[1]

Ganwyd ym Merlin, a symudodd ei deulu i Loegr ym 1933. Ymunodd ei daid enwog, y seiciatrydd Sigmund Freud, â'r teulu ym 1938. Roedd Clement yn frawd iau i'r arlunydd Lucian Freud; wedi eu plentyndod, nid oedd y ddau yn siarad am y mwyafrif o'u hoes.

Aeth yn brentis coginio a rheoli gwesty. Wedi iddo wasanaethu gyda Reifflwyr Brenhinol Wlster yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yn gogydd, rheolwr bwyty, a newyddiadurwr bwyd a diod. Dechreuodd ysgrifennu ar bynciau eraill, megis chwaraeon, a daeth yn sylwebydd. Daeth yn wyneb gyfarwydd wrth ymddangos mewn cyfres o hysbysebion teledu am fwyd ci. Enillodd ei enw fel storïwr ffraeth ar y sioe banel Just a Minute ar radio'r BBC.

Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol y Blaid Ryddfrydol dros Ynys Ely ym 1973. Ymhlith ei hoff achosion oedd addysg, noddi'r celfyddydau, a rhyddid gwybodaeth. Collodd ei sedd ym 1987.

Priododd yr actores Jilly Raymond ym 1950 a chafodd tri mab a dwy ferch. Bu farw Clement Freud yn 84 oed. Yn 2016 fe'i gyhuddwyd o drais a cham-drin rhywiol gan dair menyw.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Grimble (1968)
  • Grimble at Christmas (1973)
  • Freud on Food (1978)
  • Clicking Vicky (1980)
  • The Book of Hangovers (1981)
  • Below the Belt (1983)
  • No one Else Has Complained (1988)
  • The Gourmet's Tour of Great Britain and Ireland (1989)
  • Freud Ego (2001)
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Harry Legge-Bourke
Aelod Seneddol dros Ynys Ely
19731983
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol dros Ogledd-ddwyrain Swydd Gaergrawnt
19831987
Olynydd:
Malcolm Moss

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Sir Clement Raphael Freud. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Tachwedd 2016.