Claus Sluter

Oddi ar Wicipedia
Claus Sluter
Ganwyd1340 Edit this on Wikidata
Haarlem Edit this on Wikidata
Bu farw1406 Edit this on Wikidata
Dijon Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerflunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amFfynnon Moses Edit this on Wikidata

Cerflunydd Iseldiraidd a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa ym Mwrgwyn oedd Claus Sluter (sillefir hefyd Claes neu Klass; 1340au – rhwng 24 Medi 1405 a 30 Ionawr 1406)[1] sydd yn nodedig am ei waith yn y dull Gothig. Cydnabyddir Sluter am droi oddi ar ddelfrydau'r Gothig Rhyngwladol a thuag at ffurfiau naturiolaidd a realaidd, gan arloesi celf Iseldiraidd cynnar a dylanwadu'n gryf ar gerfluniaeth Dadeni'r Gogledd.

Nid oes llawer o fanylion sicr am fywyd Claus Sluter. Ganed ef yn Haarlem, mae'n debyg, yng nghyfnod Iarllaeth Holand. Credir taw efe yw'r "Claes de Slutere van Herlam" a gofnodir gan urdd y seiri meini ym Mrwsel tua 1379. Yn ôl archifau Dugiaeth Bwrgwyn, ymunodd Sluter â gwasanaeth y Dug Philippe II ym 1385. Gwnaed y tri cherflun y gwyddys eu bod gan Sluter, ac sydd wedi goroesi, ar gyfer Philippe II.[1]

Saif dau o weithiau enwocaf Sluter ym mynachlog Carthwsaidd Champmol ar gyrion Dijon, prifddinas Bwrgwyn, yn y capel a adeiladwyd gan y Dug Philippe i fod yn feddrod ar gyfer ei linach. Cerfiodd Sluter bortreadau o'r Dug a'i wraig, ar ffurfiau Ioan Fedyddiwr a'r Santes Gatrin o Alecsandria, ar y piler ym mhorth y capel, a chyflawnodd hefyd Ffynnonn Moses yn y clawstr sydd yn portreadu croeshoelio'r Iesu. Yr unig esiampl arall o'i waith ydy beddrod y Dug Philippe, a safai ar un adeg yn y capel yn Champmol ond sydd bellach wedi ei symud i Amgueddfa'r Celfyddydau Cain yn Dijon.

Bu farw Claus Sluter yn Dijon, yn ei drigeiniau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Claus Sluter. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ionawr 2023.