Claudia Sheinbaum
Claudia Sheinbaum | |
---|---|
![]() Yr Arlywydd Claudia Sheinbaum yn Hydref 2024. | |
Ganwyd | Claudia Sheinbaum Pardo ![]() 24 Mehefin 1962 ![]() Dinas Mecsico ![]() |
Man preswyl | Dinas Mecsico ![]() |
Dinasyddiaeth | Mecsico ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ymchwilydd ![]() |
Swydd | president-elect, Arlywydd Mecsico ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Mudiad Adfywio Cenedlaethol, Party of the Democratic Revolution ![]() |
Tad | Carlos Sheinbaum Yoselevitz ![]() |
Mam | Annie Pardo Cemo ![]() |
Priod | Carlos Imaz Gispert, Jesús Maria Tarriba ![]() |
Gwobr/au | Gwobr 100 Merch y BBC, Nobel Prize winner ![]() |
llofnod | |
![]() |
Gwleidydd a pheiriannydd amgylcheddol o Fecsico yw Claudia Sheinbaum (ganed 24 Mehefin 1962) a wasanaetha'n Arlywydd Mecsico ers 2024.
Ganed hi yn Ninas Mecsico, prifddinas y wlad, yn ferch i'r athrawes bioleg Annie Pardo Cemo a'r peiriannydd cemegol Carlos Sheinbaum, y ddau ohonynt o dras Iddewig. Astudiodd ffiseg ym Mhrifysgol Ymreolaethol Genedlaethol Mecsico (UNAM), ac enillodd radd meistr a doethuriaeth yno mewn peirianneg ynni. Aeth i Labordy Cenedlaethol Lawrence Berkeley yn Berkeley, Califfornia, i gyflawni ei hymchwil doethurol yn cymharu treuliant ynni ym Mecsico â gwledydd diwydiannol eraill. Dychwelodd i UNAM i ymuno â'r gyfadran beirianneg ym 1995.[1]
Bu Sheinbaum yn wleidyddol weithgar ers ei dyddiau'n fyfyrwraig. Penodwyd yn weinidog amgylcheddol Dinas Mecsico yn 2000 gan Andrés Manuel López Obrador, Pennaeth Llywodraeth y Brifddinas. Dychwelodd i UNAM yn 2006, a chyfrannodd i adroddiadau'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) ar liniaru newid hinsawdd.
Etholwyd Sheinbaum yn Faer Tlalpan, un o fwrdeistrefi Dinas Mecsico, yn 2015, ac yn Bennaeth Llywodraeth y Brifddinas yn 2018. Ym Mehefin 2023, cyhoeddodd Sheinbaum y byddai'n ymddiswyddo o lywodraeth Dinas Mecsico i ymgyrchu am yr arlywyddiaeth fel ymgeisydd y Mudiad Adfywio Cenedlaethol (Morena). Enillodd yr etholiad arlywyddol ym Mehefin 2024, a chychwynnodd yn y swydd ar 1 Hydref 2024, gan olynu ei hen fentor, Andrés Manuel López Obrador. Hyhi yw'r fenyw gyntaf a'r Iddew cyntaf i fod yn Arlywydd Mecsico.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Claudia Sheinbaum. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Ionawr 2025.
- Genedigaethau 1962
- Academyddion benywaidd yr 20fed ganrif o Fecsico
- Academyddion benywaidd yr 21ain ganrif o Fecsico
- Arlywyddion Mecsico
- Gwleidyddion benywaidd yr 20fed ganrif o Fecsico
- Gwleidyddion benywaidd yr 21ain ganrif o Fecsico
- Gwleidyddion Iddewig o Fecsico
- Hinsoddegwyr o Fecsico
- Peirianwyr yr 20fed ganrif o Fecsico
- Peirianwyr yr 21ain ganrif o Fecsico
- Peirianwyr amgylcheddol o Fecsico
- Peirianwyr benywaidd o Fecsico
- Pobl a aned yn Ninas Mecsico