Saets y waun

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Clari`r maes)
Saets y waun
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Lamiaceae
Genws: Salvia
Rhywogaeth: S. pratensis
Enw deuenwol
Salvia pratensis
L.

Perlysieuyn blodeuol rhwng 1 - 1.5 metr o daldra ydy Saets y Waun, Clari'r Maes neu Clais y moch (Lladin: Salvia pratensis; Saesneg: Meadow Clary). Mae'n tyfu yn Ewrop, gorllewin Asia a gogledd Affrica. Mae'n hoff iawn o dyfu mewn caeau agored neu mewn cloddiau neu ar ymyl coedwig.

Tua 2 cm yw pob blodyn a cheir clystyrau o rhwng 4 a 6 ohonynt a rheiny yn un o amryw o liwiau megis fioled, porffor, glas, pind neu las golau. Mewn parau gyferbyn â'i gilydd mae'r dail a hynny ar waelod y coesyn - tua'r 15 cm cyntaf - gan fynd yn llai wrth fynd yn uwch. Mae saets y waun yn cael ei fagu'n aml gan osodwyr blodau.

Rhinweddau meddygol[golygu | golygu cod]

Cur moriatur homo cui Salvia crescit in horto? medd yr hen ddywediad Lladin: "Pam ddylai dyn farw, os oes ganddo saets yn ei ardd?" Defyddid llawer o wahanol fathau o saets ers canrifoedd gan eu bod mor bwerus fel perlysiau rhinweddol. Fe'u defnyddir fel te yn America fwy nag yn Ewrop, bellach, yn enwedig i gadw tymheredd claf i lawr ac i atal person rhag chwysu.[1]

Defnyddir y saets hefyd ar gyfer gwella doluriau, briwiau a blorod ar y croen ac ar gyfer gwella gwynegon (cricmala) a sciatica.

GOFAL: Ni ddylai merched beichiog ei yfed na'i fwyta gan y gall effeithio cyhyrau'r groth.

Salvia officinalis[golygu | golygu cod]

"Brenin llysiau meddyginiaeth!" medd Ann Jenkins yn ei llyfr Llysiau Rhinweddol. Gwyddom fod y Rhufeiniaid yn meddwl cryn dipyn o'r planhigyn hwn. Mae ar gael drwy gydol y flwyddyn ac felly'n handi iawn fel tonig cyffredinol, yn gwella cylchrediad y gwaed misglwyf afreolaidd neu'r darfyddiad (menopause). Dwy neu dair deilen ffres mewn dŵr berwedig - a dyna ni! Dylid yfed y ddiod ddwywaith yr wythnos. Credir hefyd fod rwbio dail saets ar eich dannedd yn eu gwynu.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Erthygl cynhwysfawr ar saets" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-02-15. Cyrchwyd 2009-04-18.
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]