Clara Campoamor

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Clara Campoamor
Clara Campoamor.png
Ganwyd Clara Campoamor Rodríguez Martinez Martinez Edit this on Wikidata
12 Chwefror 1888 Edit this on Wikidata
Madrid Edit this on Wikidata
Bu farw 30 Ebrill 1972 Edit this on Wikidata (84 oed)
Lausanne Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Sbaen Sbaen
Alma mater
  • Prifysgol Complutense Madrid Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd, Cyfreithiwr, Swffraget, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swydd Member of the Cortes republicanas Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Radical Gweriniaethol Edit this on Wikidata

Ffeminist a gwleidydd Sbaenaidd oedd Clara Campoamor (12 Chwefror 1888 - 30 Ebrill 1972) a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei eiriolaeth dros hawliau ac etholfraint menywod yn y cyfnod a oedd yn arwain at ysgrifennu cyfansoddiad Sbaen ym 1931.

Fe'i ganed yn Madrid ar 12 Chwefror 1888; bu farw yn Lausanne, y Swistir ac fe'i claddwyd ym Mynwent Polloe, Donostia, Gwlad y Basg. [1][2]

Crynodeb o'i gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 13 oed, dechreuodd Campoamor weithio i deulu dosbarth gweithiol fel gwniadwraig. Yn ddiweddarach gweithiodd mewn nifer o swyddi i lywodraeth y wlad, cyn sicrhau mynediad i ysgol y gyfraith ym Mhrifysgol Madrid. Daeth yn weithgar mewn nifer o sefydliadau menywod cyn sefyll i gael ei hethol yn aelod o Gynulliad Cyfansoddiadol 1931, lle cafodd hi a dwy fenyw arall eu hethol er na allai menywod Sbaen bleidleisio ar y pryd.

Bu Campoamor yn llwyddiannus yn 1927 yn argymell gwelliannau i'r cyfreithiau llafur plant a newidiadau mewn cyfraith etholiadol. Hi oedd y fenyw gyntaf i annerch cynulliad cyfansoddol Sbaen, yn Hydref, mewn araith yn rhybuddio aelodau gwrywaidd y cynulliad bod eu gwaharddiad parhaus o fenywod rhag pleidleisio yn groes i gyfraith natur.

Pan benderfynodd ei phlaid ei hun wrthwynebu rhoi'r bleidlais i fenywod; gadawodd y blaid a pharhaodd i eirioli dros etholfraint fel aelod annibynnol.[3]

Claddwyd Clara Campoamor ym Mynwent Polloe yn Donostia, Gwlad y Basg

Arweiniodd ei gwaith at warantu cydraddoldeb rhwng dynion a merched. Yn ddiweddarach collodd ei sedd seneddol a gwasanaethodd yn fyr fel gweinidog y llywodraeth cyn ffoi o'r wlad yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Bu farw Campoamor yn alltud yn y Swistir ac fe'i claddwyd ym Mynwent Polloe yn Donostia (San Sebastian).[4]

Yn ystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid Radical Gweriniaethol.

Dyfyniad[golygu | golygu cod y dudalen]

Rwyf yn bell iawn oddi wrth comiwnyddiaeth a ffasgiaeth. Rwy'n Rhyddfrydwr! "La revolución española vista por una republicana", Espuela de Plata Editions, 2005, p. 5)[5]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Lyceum Club Femenino am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb127077248; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb127077248; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. "Clara Campoamor: sus grandes frases". http://www.lavozdegalicia.es/noticia/informacion/2014/02/12/clara-campoamor-grandes-frases/00031392206325136512567.htm.
  4. Pérez, Janet; Ihrie, Maureen (2002). The Feminist Encyclopedia of Spanish Literature: A-M (in Saesneg). Greenwood Press. ISBN 9780313324444. 
  5. Campoamor, Clara; Miranda, Neus Samblancat (2002-01-01). La revolución española vista por una republicana (in Sbaeneg). Univ. Autònoma de Barcelona. ISBN 9788449022432.