Clara Bow
| Clara Bow | |
|---|---|
| Ganwyd | Clara Gordon Bow 29 Gorffennaf 1905 Brooklyn |
| Bu farw | 27 Medi 1965 Los Angeles |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | actor, actor ffilm |
| Priod | Rex Bell |
| Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Actores ffilm o'r Unol Daleithiau oedd Clara Gordon Bow (29 Gorffennaf 1905 – 27 Medi 1965). Daeth yn seren ffilmiau yn ystod oes ffilmiau mud y 1920au a pharhaodd yn llwyddiant ar ôl dyfodiad ffilmiau llafar yn 1929. Roedd hi'n enwog yn rhyngwladol fel eicon rhyw a daeth i ymgorffori'r ysbryd y Dau Ddegau Gwyllt. Ar anterth ei henwogrwydd (1928–9) hi oedd atyniad mwyaf ym myd ffilmiau.[1]
Fe'i ganwyd yn Brooklyn, Dinas Efrog Newydd yn 1905. Roedd hi'n 17 oed pan ymddangosodd gyntaf mewn ffilm – Down to The Sea in Ships (1922). Ymddangosodd Bow mewn 46 o ffilmiau mud ac 11 o ffilmiau llafar, gan gynnwys Mantrap (1926), It (1927), a Wings (1927).
Priododd yr actor Rex Bell ym 1931. Ddwy flynedd wedyn ymddeolodd Bow o'i gyrfa actio a daeth yn ranshwr yn Nevada. Rhyddhawyd ei ffilm olaf, Hoop-La, yn 1933. Bu farw Bow yn 1965 o drawiad ar y galon yn 60 oed.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Morella, Joseph; Epstein, Edward Z. (1976). The "It" Girl: The Incredible Story of Clara Bow (yn Saesneg). Efrog Newydd: Delacorte Press. ISBN 0-440-14068-4.
- ↑ Stenn, David (2000). Clara Bow: Runnin' Wild (yn Saesneg). Cooper Square Press. tt. 263-268. ISBN 9781461660910.