Clara Barton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Clara Barton
Portrait of Clara Barton.jpg
Ganwyd 25 Rhagfyr 1821 Edit this on Wikidata
Worcester County, Oxford Edit this on Wikidata
Bu farw 12 Ebrill 1912 Edit this on Wikidata (90 oed)
Glen Echo Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaeth nyrs, dyddiadurwr Edit this on Wikidata
Gwobr/au 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland, Neuadd Enwogion New Jersey Edit this on Wikidata
Gwefan https://www.nps.gov/clba/index.htm Edit this on Wikidata
Llofnod
Clara Barton Signature, 1907.svg

Roedd Clarissa "Clara" Harlowe Barton (25 Rhagfyr 182112 Ebrill 1912) yn nyrs arloesol a sefydlodd y Groes Goch yn America. Roedd yn nyrs ysbyty yn Rhyfel Cartref America, yn athrawes ac yn glerc cleifion. Nid oedd addysg nyrsio wedi'i ffurfioli ar y pryd ac nid oedd Clara wedi mynychu'r ysgol nyrsio, felly roedd yn darparu gofal nyrsio hunan-addysg. [1] Mae Barton yn nodedig am wneud gwaith dyngarol ar adeg pan mai nifer gymharol fach o fenywod oedd yn gweithio y tu allan i'r cartref.[2]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Clara Barton ar 25 Rhagfyr 1821, yng Ngogledd Rhydychen, Massachusetts. Capten Stephen Barton oedd ei thad, aelod o'r milisia leol a chynghorydd a ennynnodd ddiddordeb ei ferch mewn gwladgarwch a materion dyngarol eang.. Roedd yn filwr o dan orchymyn Cyffredinol Cadfridog Anthony Wayne yn ei grwsâd yn erbyn yr Indiaid yn y gogledd-orllewin. Roedd hefyd yn arweinydd meddwl blaengar yn ardal pentref Rhydychen.[3] Mam Clara oedd Sarah Stone Barton.

Pan oedd yn dair oed, anfonwyd Barton i'r ysgol gyda'i brawd Stephen, lle rhagorodd mewn darllen a sillafu. Daeth yn ffrindiau agos â Nancy Fitts yn yr ysgol; hi yw'r unig ffrind sy'n hysbys iddi gael yn ei phlentyndod, gan ei bod yn blentyn swil ofnadwy..[4]

Pan oedd Clara yn 10 oed, pennodd i'w hun y dasg o nyrsio ei brawd David yn ôl i iechyd ar ôl iddo syrthio o do ysgubor a chael anaf difrifol.  Dysgodd Clara sut i ddosrannu'r feddyginiaeth a ragnodwyd i'w brawd, yn ogystal â sut i osod gelod ar ei gorff i'w waedio (triniaeth safonol ar y pryd). Parhaodd i ofalu am David yn hir ar ôl i feddygon rhoi'r gorau i'w drin. Gwnaeth adferiad llawn.

Ceisiodd ei rhieni helpu i wella ei swildod drwy ei chofrestru yn Ysgol Uwchradd Col. Stones, ond bu eu ymgais yn drychinebus.[5] Trodd Clara'n fwy swil a digalon a gwrthodai f wyta. Anfonwyd hi adref i adennill ei hiechyd.  

Wedi iddi ddychwelyd adref, symudodd ei theulu i helpu aelod o'r teulu: bu farw cefnder i'w thad, gan adael gwraig, pedwar o blant a fferm. Roedd angen paentio ac atgyweirio'r tŷ lle'r oedd y teulu Barton i fyw ynddo.  Roedd Clara yn daer iawn i gynnig cymorth, a roedd ei theulu'n ddiolchgar iawn. Wedi gorffen ar y gwaith, roedd Clara'n teimlo'n *** gan nad oedd ganddi ddim byd arall y medrai wneud i helpu, ac yn awyddus iawn i beidio bod yn faich i'w theulu.

Dechreuodd chwarae gyda'i cefndryd ac, er mawr syndod iddynt roedd yn medru dal ei thir mewn gweithgareddau fel marchogaeth ceffylau. Nid nes iddi anafu ei hun y dechreuodd mam Clara gwestiynu'r doethineb o'i gadael i  chwarae gyda'r bechgyn. Penderfynodd mam Clara y dylai ganolbwyntio'n fwy ar sgiliau benywaidd. Gwahoddodd un o gefnitherod Clara i helpu i ddatblygu ei benyweidd-dra. Datblygodd y sgiliau cymdeithasol priodol o chwarae gyda'i chefnither.[6]

Er mwyn cynorthwyo Clara i oroesi ei swildod, fe wnaeth ei rhieni ei pherswadio i fynd yn athrawes.[7] Enillodd ei thystysgrif athro cyntaf yn 1839, pan yn ddim ond 17 oed. Roedd gan Barton ddiddordeb mawr yn y proffesiwn, a gwnaeth helpu i'w ysgogi; cynnhaliodd ymgyrch recriwtio effeithiol a fyddai'n caniatáu i blant gweithwyr dderbyn addysg. Rhoddodd prosiectau llwyddiannus fel hyn yr hyder a oedd ei hangen ar Clara pan fynnodd gael cyflog cyfartal am ddysgu.

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth Clara Barton yn addysgydd ym 1838 am 12 mlynedd mewn ysgolion yng Nghanada a Gorllewin Georgia. Datblygodd Barton yn dda fel athrawes a medrai drin plant afreolus, yn enwedig y bechgyn, gan iddi fwynhau cwmni ei brodyd a chefndryd ers yn blentyn. Dysgodd sut i actio'n debyg iddynt, gan ei gwneud hi'n haws iddi gysylltu a rheoli'r bechgyn yn ei hystafell ddosbarth gan eu bod yn ei pharchu. Wedi marwolaeth ei mam ym 1851, caewyd cartref y teulu i lawr. Penderfynodd Barton ymestyn ei haddysg trwy ddilyn cwrs ysgrifennu ac ieithoedd yn Sefydliad Rhyddfrydol Clinton yn Efrog Newydd. Yn y dref coleg yma, gwnaeth lawer o gyfeilion a ehangodd ei safbwynt ar lawer o faterion a oedd yn cyd-ddigwydd ar y pryd. Roedd prifathro'r sefydliad yn cydnabod ei gallu aruthrol ac yn edmygu ei gwaith. Parhaodd y gyfeillgarwch yma am flynyddoedd lawer, gan droi i fod yn berthynas rhamantus yn y diwedd.  Fel awdur, roedd ei therminoleg yn frwd ac yn hawdd ei ddeall. Gallai ei hysgrifiadau a'i gwaith gyfarwyddo'r gwladweinyddion lleol. Ni allai neb ragori ar ei gwasanaeth rhagorol i ddynoliaeth mewn rhyfel na heddwch.

Tra'n ddysgu yn Hightstown, dysgodd Clara Barton am y diffyg ysgolion cyhoeddus yn Bordentown, y ddinas gyfagos. Yn 1852, cafodd ei ymrwymo i agor ysgol dd-dal yn Bordentown, sef yr ysgol dd-dal gyntaf yn New Jersey.[8] Bu'n llwyddiannus, ac ar ôl blwyddyn roedd wedi cyflogi gwraig arall i helpu i ddysgu dros 600 o bobl. Roedd y ddwy wraig yn gwneud $250 y flwyddyn. Gorfododd y llwyddiant yma'r dref i godi bron i $4,000 ar gyfer adeiladu ysgol newydd. Ar ôl ei gwblhau, fodd bynnag, cafodd Barton ei disodli fel prifathro gan ddyn a etholwyd gan fwrdd yr ysgol. Tybiwyd nad oedd swydd fel pennaeth sefydliad mawr yn addas i fenyw. Fe'i disodlwyd i fod yn "gynorthwy-ydd benywaidd" a bu'n gweithio mewn amgylchedd garw nes iddi dorri lawr a chael anhwylderau iechyd eraill, gan orfodi iddi roi'r gorau i'w swydd.[9]

Ym 1855, symudodd i Washington D.C. a dechreuodd weithio fel clerc yn Swyddfa Patent yr Unol Daleithiau; [10] dyma'r tro cyntaf i fenyw swydd clerciaeth o bwys yn y llywodraeth ffederal ac ar gyflog sy'n gyfartal â chyflog dyn. Am dair blynedd, derbyniodd lawer o sarhad ac athrod gan glercod gwrywaidd. [11] Yn dilyn hyn, o dan wrthwynebiad gwleidyddol i ferched a oedd yn gweithio mewn swyddfeydd y llywodraeth, cafodd ei swydd ei di-raddio i swydd copiwr, ac ym 1856, dan weinyddiaeth James Buchanan, cafodd ei diswyddo am ei "Black Republicanism". Ar ôl ethol Abraham Lincoln, wedi iddi fyw gyda pherthnasau a ffrindiau yn Massachusetts am dair blynedd, dychwelodd i'r swyddfa batent yn Hydref 1861, fel copiwr dros dro, yn y gobaith y gallai hi agor y ffordd i fwy o ferched yn ngwasanaeth y llywodraeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Summers, Cole. "Clara Barton- Founder of the American Red Cross". http://www.truthaboutnursing.org/press/pioneers/clara_barton.html.
  2. Edward, James; Wilson James, Janet; S. Boyer, Paul (1971). Notable American Women 1607–1950: A Biographical Dictionary, Vol. 1. Cambridge, MA: Belknap Pr. pp. 103–107. 
  3. Bacon-Foster, Corra. Clara Barton, Humanitarian. Records of the Columbia Historical Society, Washington, D.C. 21 (1918): 278-356. Print.
  4. Barton, Clara. The Story of My Childhood New York: Arno Press Inc, (1980)
  5. Pryor, Elizabeth Brown. Clara Barton: Professional Angel Philadelphia: University of Pennsylvania Press, (1987)
  6. Pryor, Elizabeth Brown (1988). Clara Barton: professional angel (1st pbk. print. ed.). Philadelphia: University of Pennsylvania. ISBN 978-0-8122-1273-0. 
  7. Pryor, Elizabeth Brown. Barton, Clara. American National Biography, (2000)
  8. Howard, Angela; M. Kavenik, Frances (1990). Handbook of American Women's History, Vol. 696. NY: Garland. pp. 61–62. 
  9. Spiegel, Allen D. "The Role of Gender, Phrenology, Discrimination and Nervous Prostration in Clara Barton's Career". Journal of Community Health 20.6 (1995): 501–526.
  10. Clara Barton, Dictionary of Unitarian & Universalist Biography
  11. E. Willard, Frances; A. Livermore, Mary (2005). Great American Women of the 19th Century: A Biographical Encyclopedia. Amherst, NY: Humanity Books. pp. 81–82.