Ciro Alegría

Oddi ar Wicipedia
Ciro Alegría
GanwydCiro Alegría Bazán Edit this on Wikidata
4 Tachwedd 1909 Edit this on Wikidata
Sartimbamba District Edit this on Wikidata
Bu farw17 Chwefror 1967 Edit this on Wikidata
o trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Chaclacayo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPeriw Edit this on Wikidata
Alma mater
  • National University of Trujillo Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, nofelydd, gwleidydd, awdur storiau byrion, bardd, ysgrifennwr, cyfieithydd, academydd Edit this on Wikidata
SwyddMember of the Chamber of Deputies of Peru Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBroad and Alien is the World, Q5638014 Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, nofel Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCynghrair Chwyldroadol Poblogaidd America, Popular Action Edit this on Wikidata
MudiadNorth Group Edit this on Wikidata
PriodDora Varona Edit this on Wikidata
PlantGonzalo Alegría, Cecilia Alegría, Alonso Alegría Edit this on Wikidata

Nofelydd Periwaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Ciro Alegría (4 Tachwedd 190917 Chwefror 1967). Mae ei waith yn ymwneud â bywydau pobloedd brodorol Periw.

Ganwyd yn Sartimbamba yn nhalaith Sánchez Carrión, Periw, a chafodd ei fagu yn ardal Huamachuco. Astudiodd yng Ngholeg Cenedlaethol San Juan yn Trujillo. Yn 1930 ymunodd ag ymgyrch yr Alianza Popular Revolucionaria Americana (neu'r Apristas) dros ddiwygiadau cymdeithasol er lles y brodorion. Cafodd ei garcharu ddwywaith, yn 1931 ac yn 1933, a fe'i alltudiwyd i Tsile yn 1934.[1]

Mae ei nofel gyntaf, La serpiente de oro (1935), yn portreadu bywyd y brodorion ar hyd Afon Marañón, a'i ail nofel, Los perros hambrientos (1938), yn disgrifio trafferthion y bugeiliaid brodorol yn ucheldiroedd Periw. Ei gampwaith ydy El mundo es ancho y ajeno (1941), stori epig am y frwydr dros dir rhwng llwyth o frodorion yr ucheldiroedd a thirfeddianwyr o dras Ewropeaidd. Cyhoeddodd hefyd gasgliad o straeon byrion, Duelo de caballeros (1963).[1]

Bu'n byw yn Unol Daleithiau America o 1941 i 1948. Bu farw yn Lima yn 57 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Ciro Alegría. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Medi 2019.