Cilwg yn Ôl (drama)
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | John Osborne |
| Cyhoeddwr | ni chafodd ei gyhoeddi |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1956 |
| Dechrau/Sefydlu | 1956 |
| Genre | Dramâu Cymraeg |
| Cymeriadau | Cliff Lewis, Helena Charles, Jimmy Porter, Colonel Redfern, Alison Porter |
| Lleoliad y perff. 1af | Llundain |
| Dyddiad y perff. 1af | 8 Mai 1956 |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03t1w3 |
Cyfieithiad y dramodydd John Gwilym Jones o'r ddrama lwyfan Look back in Anger yw Cilwg yn Ôl neu Cilolwg yn Ôl. John Osborne yw awdur y ddrama wreiddiol. Ni chafodd y cyfieithiad ei chyhoeddi. Llwyfannwyd y cyfieithiad gan Gwmni Theatr Cymru ym 1969, a gan Cymdeithas y Ddrama Gymraeg, Prifysgol Bangor cyn hynny.[2]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Jimmy Porter - yw'r "gŵr ifanc blin" sy'n anfodlon iawn efo'r uwch ddosbarth Prydeinig
- Alison Porter - ei wraig anfoddedig
- Helena Charles - cyfaill cariadus Jimmy o'r uwch ddosbarth
- Cliff Lewis - cyd letywr Jimmy ac Alison o'r dosbarth gweithiol
- Cyrnol Redfern - tad Alison a chyn-gyrnol Prydeinig.
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]1960au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y cyfieithiad Cymraeg am y tro cyntaf gan Gymdeithas Ddrama Prifysgol Cymru Bangor yn y 1960au gyda Maureen Rhys a John Ogwen ymysg y myfyrwyr oedd yn perfformio.[3] Cyfarwyddwr John Gwilym Jones; cast
- Alison Porter - Maureen Rhys
- Helena Charles
- Jimmy Porter - John Ogwen
- Cliff Lewis
- Cyrnol Redfern
Dyma'r cynhyrchiad osododd seiliau carwriaethol i briodas John a Maureen, yn ôl Maureen Rhys mewn erthygl yn 2015: "Roedden ni'n 'nabod ein gilydd i ddweud helo gan fod ni'n dau'n astudio drama yng Ngholeg Bangor o dan John Gwilym Jones. Ond gymerodd hi berfformiad o addasiad Cymraeg o ddrama John Osborne Look Back in Anger i ni ddod at ein gilydd fel petai. [...] Roedd y ddau ohonon ni'n aelodau o gast Cilwg yn Ôl, ond gan fod na ddau gast gwahanol ar gyfer gwahanol berfformiadau, roeddan ni ar wahân am y rhan helaeth o'r perffomiadau. Ond, roeddan ni yn digwydd bod yn yr un cast am dair noson, ac roedd fy nghymeriad i fod i roi peltan i gymeriad John, a wedyn ei gusanu. A dyna pryd wnaeth o ddigwydd!", ychwanegodd.[3]
Llwyfannwyd y cyfieithiad gan Gwmni Theatr Cymru ym 1969.[4] Cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts a Beryl Williams.[5]
- Alison Porter - Gaynor Morgan Rees
- Helena Charles - Beryl Williams
- Jimmy Porter - John Ogwen
- Cliff Lewis - Grey Evans
- Cyrnol Redfern - David Welch
1980au
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd y ddrama gan Theatr Fach Llangefni ym 1985.[6]
- Alison Porter
- Helena Charles
- Jimmy Porter
- Cliff Lewis
- Cyrnol Redfern
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Look Back in Anger, May 1956".
- ↑ Rhaglen Cilwg yn Ôl. Cwmni Theatr Cymru. 1970.
- ↑ 3.0 3.1 "Er gwell, er gwaeth!". BBC Cymru Fyw. 2015-01-22. Cyrchwyd 2024-09-10.
- ↑ "Jan 15, 1970, page 12 - The North Wales Weekly News at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-10.
- ↑ "Rhagorol online catalogue". diogel.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2024-09-10.
- ↑ "archifau".