Ci poeth

Oddi ar Wicipedia
Ci poeth gyda sôs coch a nionod

Brechdan selsigen yw ci poeth neu boethgi ble mae'r selsigen wedi'i weini mewn agen a wnaed mewn bynsen hir. Gall gyfeirio hefyd at y selsigen yn unig. Mae cyfwyd nodweddiadol ar gyfer ci poeth yn cynnwys mwstard, sôs coch, mayonnaise, ac enllyn, a garnisiau cyffredin yn cynnwys nionod, bresych picl, tshili, caws, colslo, ac olewydd.

Daeth y mathau o selsig sy'n cael eu rhoi mewn cŵn poeth o'r Almaen a daethant yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau, ac yno y daeth y "ci poeth" yn fwyd stryd i'r dosbarth gweithiol, yn cael eu gwerthu ar stondinau a chertiau. Daeth y ci poeth i'w gysylltu'n agos â phêl fas a diwylliant Americanaidd. Er ei fod yn cael ei gysylltu yn arbennig â Dinas Efrog Newydd, daeth y ci poeth i'w weld ledled yn yr Unol Daleithiau yn ystod yr 20g.[1][2][3]

Mae'r term ci (neu 'dog' yn Saesneg) wedi'i ddefnyddio fel gair i gyfeirio at selsigen ers y 19g. Un gred yw ei fod yn cael ei ddefnyddio fel cyhuddiad bod gwneuthurwyr selsig yn defnyddio cig cŵn, a hynny o leiaf ers 1845.[4] Mae'n debyg bod bwyta cig cŵn yn eitha cyffredin yn yr Almaen ar ddechrau'r 20g.[5][6] 

Cyfieithiad benthyg[golygu | golygu cod]

Mae ci poeth yn enghraiff berffaith o air neu derm sy'n cyfieithiad benthyg, hynny yw, gair neu gysyniad sydd wedi ei gyfieithu'n llythrennol o iaith arall heb ei fod yn gwneud synnwyr yn yr iaith a gyfieithwyd iddi.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hauck-Lawson, Annie; Deutsch, Jonathan (2013). Gastropolis: Food and New York City. Columbia University Press.
  2. Mercuri, Becky (2007). The Great American Hot Dog Book: Recipes and Side Dishes from Across America. Gibbs Smith.
  3. Kraig, Bruce; Carroll, Patty. Man Bites Dog: Hot Dog Culture in America. 2012: AltaMira Press.CS1 maint: location (link)
  4. Wilton 2004:58–59
  5. (PDF) Germany's dog meat market; Consumption of Canines and Horses Is on the Increase.. June 23, 1907. https://timesmachine.nytimes.com/timesmachine/1907/06/23/106756317.pdf. Adalwyd 2008-01-20.
  6. Monthly consular and trade reports. 64. United States Bureau of Manufactures, Bureau of Foreign Commerce, Dept. of Commerce; Bureau Of Manufactures, Bureau Of Foreign Commerce; Bureau Of Statistics, Dept. of Commerce and Labor. 1900. https://books.google.com/?id=3mZJAAAAMAAJ&pg=PP5&q=. Adalwyd 2009-09-29.