Ci Llydaw
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Delwedd:Epagneul Breton.jpg, Brittany Puppy.jpg, Brittany Spaniel Lincoln.jpg | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | math o gi ![]() |
![]() |
Brîd o gi hela sy'n tarddu o Lydaw yw Ci Llydaw. Fe'i elwir yn sbaengi gan rhai, ond mae'n debycach i gyfeirgi bychan. Yn y cae mae'n marcio'r adar ac yn eu dwyn yn ôl i'r heliwr.
Ci canolig ei faint yw Ci Llydaw sy'n sefyll tua 44.5 i 52 cm ac yn pwyso 13.5 i 18 kg. Mae'r mwyafrif yn ddigynffon neu'n fyrgwt, a chaiff cynffonnau hir eu tocio'n hyd 10 cm. Mae ganddo gôt o flew gwastad gyda bacsiau ar y clustiau, y dor a'r coesau. Gan amlaf mae ganddo liw oren a gwyn neu ddugoch a gwyn, ond gall hefyd fod yn ddu a gwyn neu'n drilliw.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ (Saesneg) Brittany (breed of dog). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ionawr 2017.