Ci Hela Racŵn Melyn a Du

Oddi ar Wicipedia
Ci Hela Racŵn Melyn a Du
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
MathCoonhound Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Hela Racŵn Melyn a Du

Ci hela sy'n tarddu o Unol Daleithiau America yw'r Ci Hela Racŵn Melyn a Du (Saesneg: Black and Tan Coonhound). Mae'n debyg iddo ddisgyn o'r Gwaetgi a'r Talbot. Helgi hynod o wydn a chryf ydyw, a ddefnyddir i hela racwnod, oposymiaid, ac hyd yn oed cwgarod. Wedi iddo ddilyn trywydd ei brae a'i gwrso i fyny coeden, mae'n udo yn uchel i dynnu sylw ei feistr.[1]

Fel awgrymir yr enw, côt ddu gyda smotiau melyn (brown) ar ei goesau a'i drwyn sydd gan y Ci Hela Racŵn Melyn a Du. Yn debyg i gŵn hela racŵn eraill, mae ganddo weflau mawr a chlustiau llipa, isel. Mae'n tyfu i ryw 58–69 cm ar ei sefyll ac yn pwyso 23–34 kg. Mae fel arfer yn byw am 10 i 12 mlynedd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Kathryn Hennessy et al., The Dog Encyclopedia (Llundain: Dorling Kindersley, 2013), t. 160.