Ci Hafanaidd
Gwedd
| Enghraifft o: | brîd o gi |
|---|---|
| Math | ci |
| Gwlad | Ciwba |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03ydd_ |
Ci arffed sy'n tarddu o Giwba yw'r Ci Hafanaidd (Sbaeneg: Habanero) a elwir ar ôl dinas La Habana. Dyma gi cenedlaethol Ciwba, ac yn ôl yr American Kennel Club yr unig frîd sydd yn frodorol i'r ynys.[1] Mae'n debyg iddo ddisgyn o gŵn Bichon o'r Ynysoedd Dedwydd a ddygwyd i Giwba gan fasnachwyr Eidalaidd neu Sbaenaidd.[2]
Ci hynod o chwareus ydy'r Ci Hafanaidd sydd yn gi anwes addas iawn i'r teulu. Gall hefyd fod yn warchotgi da. Mae ganddo uwch-gôt donnog o flew sidanaidd, a all fod o unrhyw liw. Mae'n tyfu i 23–28 cm ac yn pwyso 3–6 kg, ac yn byw mwy na 12 mlynedd.[2]