Ci Defaid Shetland
Gwedd
| Enghraifft o: | brîd o gi |
|---|---|
| Math | ci |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0182yx |

Ci defaid bychan sy'n tarddu o'r Alban yw Ci Defaid Shetland neu ar lafar Sheltie (enw a ddefnyddir hefyd am ferlyn Shetland). Edrychir yn debyg i'r Ci Defaid Gwrychog (rough-coated collie), a disgynnai'r ddau frîd hwn o hen gi gwaith Albanaidd. Datblygwyd gan fugeiliaid i yrru defaid bychain Ynysoedd Shetland. Mae ganddo gôt syth, hir o flew du, brown, neu lwydlas gyda brychni du ac o bosib marciau melyn a gwyn.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Shetland sheepdog. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Mai 2017.