Chwip din

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tad yn rhoi chwip din i'w blentyn; llun gan Martin Van Maele, 1905

Math o gosb corfforol ydy chwip din sy'n cael ei roi fel arfer i blant neu lasoed drwg, heb wneud niwed.[1] Gyda'r llaw agored mae'r rhan fwyaf o bobl taro, er bod rhai'n defnyddio gwialen fedw, belt neu slipar. Mae'r oedolyn fel arfer yn rhiant, athro, athrawes neu ceidwad. Ar gyfartaledd mae bechgyn yn fwy tebygol i gael chwip din na merched.[2][3][4][5][6]

Mae rhai gwledydd wedi ei wneud yn anghyfreithlon i roi chwip din mewn ysgolion neu lefydd eraill. Ond mae'r rhan fwyaf o wledydd yn gadael i'r rhieni yr cael hawl i wneud hyn.

Mae rhai traddodiadau'n gadael i'r gwr roi chwip dim i'w wraig, er bod llai a llai yn gwneud hyn erbyn heddiw.[7] Dro arall, mae chwipio oedolyn yn cael ei weld fel rhan o gyfathrach rywiol neu fel BDSM.

Adref[golygu | golygu cod y dudalen]

     Gwledydd sydd wedi gwneud cosb corfforol i blant yn anghyfreithlon.

Ers cyhoeddi The Common Sense Book of Baby and Child Care yn 1946 newidiodd pethau, gan wneud i rieni feddwl a yw taro plentyn yn beth da. Sweden oed y wlad cyntaf i wneud cosbi plentyn yn anghyfreithlon, yn 1979. Eryn 2013 roedd 34 gwlad, 22 ohonyn nhw yn Ewrop.[8][9]

Ysgol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mewn ysgol, defnyddiwyd offer arbennig i daro yn hytrach na'r llaw agored; y wialen fedw fel arfer.

Mae'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop, Japan, Canada a De Affrica wedi gwneud cosbi corfforol yn anghyfreithlon. Yn yr Unol Daleithiau mi wnaeth y Llys Uchaf yn 1977 ddweud nad oedd 'padlo' pen-olau disgyblion ddim yn nghyfreithlon per se. Mae deddfau cyffredinol yr UD hefyd yn dweud y dyla'r gosb fod yn "reasonable and not excessive".[10] Ond, bellach, mae 31 talaith wedi ei wneud yn anghyfreithlon, yn enwedig yng ngogledd y wlad.[11][12]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Day, R.; Peterson, G. W.; McCracken, C. (1998). "Predicting Spanking of Younger and Older Children by their Mothers and Fathers". Journal of Marriage and the Family 60 (1): 79–94. doi:10.2307/353443. JSTOR 353443.
  2. Elder, G.H.; Bowerman, C. E. (1963). "Family Structure and Child Rearing Patterns: The Effect of Family Size and Sex Composition". American Sociological Review 28 (6): 891–905. doi:10.2307/2090309. JSTOR 2090309.
  3. Gelles, Richard J.; Straus, Murray A.; Smith, Christine (1995). Physical Violence in American Families: risk factors and adaptations to violence in 8,145 families. New Brunswick, NJ: Transaction. ISBN 1-56000-828-8.CS1 maint: Multiple names: authors list (link)
  4. Jacklin, Carol Nagy; Maccoby, Eleanor E. (1978). The Psychology of Sex Differences. Stanford, California: Stanford University Press. ISBN 0-8047-0974-2.CS1 maint: Multiple names: authors list (link)
  5. MacDonald, A. P. (August 1971). "Internal-external locus of control: parental antecedents". Journal of Consulting and Clinical Psychology 37 (1): 141–147. doi:10.1037/h0031281. PMID 5565616.
  6. Straus, Murray A. (1971). "Some Social Antecedents of Physical Punishment: a linkage theory interpretation". Journal of Marriage and the Family 33 (4): 658–663. doi:10.2307/349438. JSTOR 349438.
  7. R. Claire Snyder-Hall (2008). "The Ideology of Wifely Submission: A Challenge for Feminism?". Politics & Gender 4 (4): 563–586. doi:10.1017/S1743923X08000482.
  8. "The Center for Effective Discipline". EPOCH-USA. Cyrchwyd 11 November 2013.
  9. Global Initiative to End All Corporal Punishment of Children (GITEACPOC).
  10. Ingraham v. Wright, 97, S.Ct. 1401 (1977).
  11. "Corporal Punishment and Paddling Statistics by State and Race", Center for Effective Discipline.
  12. "External links to present-day school handbooks", World Corporal Punishment Research.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: