Neidio i'r cynnwys

Chwiorydd Goadec

Oddi ar Wicipedia
Chwiorydd Goadec

Triawd o gantoresau Llydaweg oedd y Chwiorydd Goadec (Ar C'hoarezed Goadeg yn Llydaweg). Roedden nhw'n dod o Treffrin (Arfordir Armor). Maryvonne (1900-1983), Eugénie (1909-2003) ac Anastasie Goadec (1913-1998) oedd y tair chwaer. Dechreuasant ddiddanu yn y festoù-noz yn 1956, ymysg yr offerynwyr a'r cantorion. Gyda'u dwy chwaer arall yn ymuno a nhw tan 1964, Louise (1903-1964) ac Ernestine (1911-1964), canu gwerin Llydaweg (gwerzioù) oedd y rhan fwyaf o'u repertoire. Fe wnaethon nhw hefyd canu ar gyfer dawnsio a datblygu techneg newydd o'r enw kan ha diskan. Math o ganu acapella yw hwn gydag un canwr yn dechrau a'r canwr nesaf yn ymuno ar sill olaf y canwr blaenorol.

Yn 1972-3 gwnaeth poblogrwydd cerddoriaeth werin a'r don pop-Celtaidd eu rhoi ar y map, gydag Alan Stivell, un o'u hedmygwyr pennaf. Mae cyfraniad y chwiorydd i ddiwylliant Llydaw a'i barhad yn fawr iawn.[1]

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Cawsant eu geni ar ddechau'r 20fed ganrif yn ardal Carhaix (le Poher yng nghanolbarth Llydaw). Cawsant hyfforddiant o oed ifanc iawn yng nghelfyddyd canu gwerin Llydaw: gwerz, kan ha diskan, ac ati. Wedi ei eni yn Nantes (Naoned), gweithiwr eglwysig oedd eu tad, Jean-Louis Goadec ac nid oedd yn hyddysg yng nghaneuon y werin wledig[2], ond daeth yn ganwr o fri a throsglwyddodd ei angerdd yn naturiol i'w dri phlentyn ar ddeg.[3] Gwniadwraig oedd eu man Victorine Claude a'u modryb hefyd ac roeddynt yn canu ar yr aelwyd, yn yr eglwys ac wrth eu gwaith.[2] Roedd ganddynt ddwy chwaer arall ac wyth brawd. Roedd un o'r brodyr yn ganwr da iawn, ond bu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[4] Yn nes ymlaen, fe wnaeth eu gwaith a chyfrifoldebau teuluol wahanu'r teulu o gantorion.[5]

Gyrfa yn gantorion gwerin yn y festoù-noz

[golygu | golygu cod]

Yn 1956, roedd y festoù-noz (gwyliau nos) yn ail-ymddangos wedi eu moderneiddio ac yn tyfu. Roedd y darpar "chwiorydd Goadec" (dan enwau eu gwŷr: Maryvonne L'Hôpital, Eugénie Ebrel ac Anastasie Le Bras) yn diddanu gyda'u chwiorydd Ernestine (Ernestine Gouesnou a elwid Tine) a Louise (Louise Le Bournot) mewn festoù-noz yng nghanolbarth Llydaw. Roedd y cyntaf o'r rhain yn Châteauneuf-du-Faou ble roedd Louise yn byw.[6] O 1958 ymlaen, cytunon nhw hefyd i ymuno a chylch Celtaidd Ahès ynn Carhaix ar gais Albert Trevidic, llywydd cyntaf y cylch hwn.[7] Hefyd, roeddynt yn cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau canu a sefydlwyd pan adnewyddwyd y fest-noz. Fe enillasant y gystadleuaeth a drefnwyd yn Gourin gan Loeiz Ropars ar 15 Tachwedd 1959, am eu can Gousperoù ar raned (Gosber y Brogaod / Y Derwydd a'r Plentyn).[7]

Yn ystod y 1960au fe wnaethant barhau i ddiddanu drwy ganu gwerin yn ystod seibiau dawnsio yn Haute Cornouaille. Roeddynt felly'n rhannu'r llwyfan gydag offerynwyr a chantorion oedd yn cyfeilio dawnsfeydd. Ond yn 1964 bu farw Louise ac Ernestine. Ffurfiodd y tair chwaer a oroesodd driawd, y Chwiorydd Goadec, a diddanu rhagor o ddawnsfeydd. Roedd eu henwogrwydd gymaint eu bod yn mynd i ŵyl nos bron bob penwythnos, fel yr oedd y Brodyr Morvan. Canu alawon gwerin oeddynt yn wreiddiol ond cawsant lwyddiant hefyd gyda chanu ar gyfer dawnsio, gan greu fersiwn benodol o Kan ha diskan i dri llais.

Sêr y byd gwerin

[golygu | golygu cod]

Fel cantorion traddodiadol, roeddynt yn cael eu hanrhydeddu gan adfywiad y diwylliant Llydewig (diwedd y 1960au a dechrau'r 70au), yn arbennig gan Alan Stivell. Cymerodd Stivell ei ysbrydoliaeth ar gyfer bagad Bleimor gan eu caneuon. Daethant yn ffrindiau da ac fe ganodd gyda nhw sawl gwaith.[8] Fel dywed Jacques Vassal yn ei waith ar ganu Llydaweg, "maent yn cynrychioli enghraifft dda, prin iawn yn Ffrainc, o artistiaid o'r traddodiad gwledig, a 'ail-ddarganfyddwyd' yn ystod adfywiad trefol".[9]

Ar frig poblogrwydd cerddoriaeth Llydaweg ar ddechrau'r 1970au, roedd gan y chwiorydd Goadec brofiad da o'r byd hwnnw. Cawsant gyngerdd yn 1972 yn La Mutualite, Paris, gyda Glenmor, y Leprechauns a Bagad Bleimor. Yn 1972 ac 1973, cawsant eu gwahodd i ganu yng Ngŵyl Kertalg yn Moelan-sur-Mer, ble canodd nifer o grwpiau'r 1960au fel Les Leprechauns, Happy Traum, Alan Stivell ac eraill. Cafodd y ddau gyngerdd eu recordio.[10] Yn yr ail gyngerdd canasant Elysa - a ddeilliodd o gân Lean-Pierre Le Scour Plac'hig Eusa (Yr eneth o Ouessant) gydag Alan Stivell yn cyfeilio ar y delyn.

Yn yr un flwyddyn, canasant yn y Bobino, teml 'music hall' chwedlonol yn Paris Montparnasse ar gyfer perfformiad eithriadol a gafodd ei recordio. Roedd y recordiad yn adlewyrchu'r awyrgylch a grëwyd gan y dawnswyr oedd yn llenwi'r strydoedd bychain.[2] Perfformiasant dair noson ar ôl ei gilydd mewn neuadd oedd yn arfer croesawu'r canwr pop Georges Brassens, ond roedd yn llwyddiant ysgubol er gwaethaf amheuaeth rhai. [11] Dywedodd René Abjean, mewn erthygl yn y cylchgrawn Autrement yn 1979, fod y sioe fest-noz yn ymylu ar yr abswrd ac wedi dod i Baris â "tair hen wraig wladaidd o Carhaix [...] ble trodd y gwerinol yn wirion". I Yann Le Meur roedd "yr ecsentrigrwydd yn rhoi cyfle i Lydaw ddangos cymaint roedd estheteg normal yn estron iddi a sut gallai wahanu ei hun o'r unffurfiaeth ddiwylliannol a orfodai'r 20g dotalitaraidd."[12]

Treftadaeth ddiwylliannol yn etifeddiaeth deuluol

[golygu | golygu cod]

Ni wnaeth eu poblogrwydd effeithio ar eu bywydau dyddiol gan iddynt wrthod statws "sêr". [13] Fe fuont yn diddanu yn y festoù-noz tan i'r triawd ddod i ben gyda marwolaeth Maryvonne, yr hynaf o'r tair chwaer yn 1983. Bu farw Thasie hithau yn 1998. Gadawodd y chwiorydd gatalog pwysig i gantorion traddodiadol y cyfnod: tair record hir wedi eu recordio yn y casgliad Mouez Breiz yn 1967 ac 1972, record hir a recordiwyd yn ystod eu perfformiad yn y Bobino yn 1973, un arall wedi ei chynhyrchu gan Keltia III (label Alan Stivell) yn 1975, heb gyfrif nifer o gyfraniadau i albymau ar y cyd neu gasgliadau yn ogystal â nifer o archifau sain gan gasglwyr. [14]

Camodd Eugénie yn ôl i'r llwyfan yn CLC Guilvinec ar ei phen-blwydd yn wyth deg pump mewn triawd gyda'i merch ar ysgogiad y seremoni a Denez Prigent, edmygwr mawr o'r Chwiorydd. Eugénie Goadec drosglwyddodd yr enwog Gwerz E ti Eliz Iza iddo ar lafar ac fe ganodd Prigent hi wedyn mewn sawl cyngerdd ledled y byd.

Ail-recordiodd Eugénie record gyda'i merch yn 1994 (Gwerzioù)[15]. Yn Rhagfyr 1997, cymerodd Eugénie a Louise ran mewn pump ar hugain o berfformiadau gyda Yann-Fañch Kemener. Ar 18 Ionawr 2003, bu farw Eugénie Goadec yn 93, a thrwy hynny droi'r triawd teuluol yn hanes Llydaw. [16] Cyfansoddodd Denez Prigent gân kan-ha-diskan er cof amdanynt o dan y teitl Gavotenn an Aeled (Gavotte yr angylion) y canodd Louise Ebrel yn nes ymlaen ar ei halbwm Tre Tavrin ha Sant Voran.

Répertoire a nodweddion cerddorol

[golygu | golygu cod]

Roedd y chwiorydd Goadec yn canu gwerzioù am ffeithiau hanesyddol fel arfer rhai trychinebus neu drist ac weithiau chwedlonol. Ymysg yr enwocaf mae Gousperou ar raned (Gosber y Brogaod / Y Derwydd a'r Plentyn), E Ti Eliz Iza (Tŷ Eliz Iza), Ar sorserez, Ar gornadonez, Janedig ar Rouz, ac ati. Mae artistiaid eraill neu bagadoù (bandiau Llydawaidd) wedi gwneud eu fersiynau eu hunain o rai o'r caneuon hyn ac mae rhai o'r caneuon wedi eu cyhoeddi'n eang, er enghraifft E ti Eliz Iza a Deus ganin-me plac’h yaouank[17].

Sylwa'r ymchwilydd Donatien Laurent fod eu repertoire wedi datblygu: "Rhigymau plant, caneuon ar gyfer dawnsio, caneuon dychanol a chlasurol, caneuon deialog, gwerzioù o bob oed." Roedd yr ymchwilydd ei hun wedi eu recordio yn canu caneuon ar gyfer digwyddiadau penodol fel Igenane a Boked eured. Yn ogystal â chaneuon dawnsio gyda rhythm arbennig ar gyfer dawnsfeydd, roeddynt yn canu'n ddi-gyfeiliant yn y festoù-noz gyda thechneg y kan-ha-diskan, sef pan fydd y lleisiau yn croesi gan un neu fwy o gantorion yn ailadrodd y cymal pan fydd yn cyntaf yn ei orffen.[18]

Mae'r arbenigwr René Abjean yn tynnu sylw at nodweddion eu dull o ganu: "Pan fyddwn yn clywed cantorion fel y chwiorydd Goadec o Carhaix, gallwn ofyn yn ddidwyll a ydyn nhw'n canu'n gywir. Gallwn dueddu mewn gwirionedd i farnu'r hyn sydd ddim yn cydymffurfio â'r gerddoriaeth a glywn ni bob dydd a phob nos drwy uchel seinyddion, radios, transistorau ac yn y blaen. Ond, o glywed yr un 'diffygion' yn yr un lle ac yn yr un dull...mae'n bosib amau...a breuddwydio drwy ba wyrth roedd rhai clustiau, er yn sensitif, wedi gallu hyd hynny gael eu cadw oddi wrth y rheol i gydymffurfio". [19] Eglura'r acwstegydd Emile Leip fod y gerddoriaeth hon, yn amlwg ddim yn well na gwaeth na cherddoriaeth orllewinol. Mae'n rhywbeth arall ac yn gweithredu ar lefel wahanol, yn syml."[20]

Disgyddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • 1967 : Les sœurs Goadec de Carhaix, Mouez Breiz, 33523, record hir/ Ail-gynhyrchiad Keltia Musique, CD 33523, 2014
  • 1967 : Les sœurs Goadec de Carhaix, Mouez Breiz, 522, record hir
  • 1972 : Ar c'hoarezed Goadec, Mouez Breiz 30370, record hir / Ailgynhyrchiad Keltia Musique, CD 303370, 2014
  • 1973 : Ha Bobino, A Bobino, Chant du Monde LDX 74 535, record hir / Ailgynhyrchiad yn 1997 Enregistrement public, Chant du Monde CD 2741081
  • 1975 : Elysa, Barclay, 71480, Sengl
  • 1975 : Ar c'hoarezed Goadec, Kanerezed deus Treffrin, Kernew-Uhel, Keltia III KEL 03 / Réédition yn 1990, Moueziou bruded a Vreiz, Les voix légendaires de Bretagne, Keltia musique , KMCD 11
  • 2012 : Les sœurs Goadec : Chanteuses du Centre-Bretagne, casgliad Grands interprètes de Bretagne vol. 5, Coop Breizh, 2 x CD + lllyfryn, 10052

Cyfraniadau

[golygu | golygu cod]
  • 1961 : En passant par la Bretagne, Vega, F 35 S 3015, record hir - 25 cm, recordiwyd 25/11/1961,hefyd gan Ricordi 25 S 041 / Ailgynhyrchwyd, Fest-noz Cadoudal, yn 1975, Arion, ARN 3314, 33 tours
  • 1964 : Le pardon des Kan ha diskan, Mouez Breiz, record hir, 30347 / Ailgynhyrchwyd yn 2015, CD Keltia Musique
  • 1972 : Premier Festival Kertalg de Pop Celtic' 72, Chant du Monde, record hir, LDX 74513
  • 1973 : Deuxième Festival Kertalg 73, Barclay, 2 record hir, 920453
  • 1976 : Skoazell Vreizh, Soutien aux familles des détenus politiques bretons, HLB 7612, record hir / Ailgynhyrchwyd fel CD yn 2013
  • 1978 : Ils se meurent nos oiseaux (Konskried Sant Nikolas), MN 04, record hir
  • 1994 : Gwerzioù, Eugénie Goadec avec Louise Ebrel, Coop Breizh, CD 429

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]
  • 1974 : ymddangos fel eu hunain yn y ffilm Vos gueules les mouettes yn canu'r alaw draddodiadol "E Garnison".

Casgliadau, teyrngedau ac ati

[golygu | golygu cod]
Alan Stivell
DJ Miss Blue
  • 1989 : Les sources du Barzaz Breiz aujourd'hui (2 detils : An aotrou kont har ar gornandonez a Ar marc'hadour bihan), ArMen / Dastum, 2 x CD
  • 1991 : Les musiques de Bretagne (Ar Plac'h Diw Wech Eureujet)
  • 1994 : Tradition vivante de Bretagne 2 (Son Ar Patatez)
  • 1997 : L'âme Celte de Bretagne et d'Irlande (Konskried Sant Nikolaz)
  • 1998 : Fest Vraz - Musiques bretonnes (Ar verjelenn)
  • 1998 : Alan Stivell, 1 Douar (La mémoire de l'humain)
  • 2000 : Roland Becker, Er roue Morvan
  • 2007 : Les ramoneurs de menhirs et Louise Ebrel, Dañs An Diaoul (Dañs Gwadek 1, Dañs Gwadek 2)
  • 2008 : Red Cardell, les Frères Guichen et Louise Ebrel, Le Banquet de cristal (Fich fich Logodenn)
  • 2009 : Alan Stivell, Emerald (Goadec Rock)
  • 2009 : Bretagne, Enregistrements réalisés rhwng 1900 a 2006 (D'omp d'an un)
  • 2009 : La musique bretonne pour les nuls (Ar martolod farw)
  • 2012 : DJ Miss Blue, Breizh'n Bass (Remix : Breizh Roots, Amzer 'zo gant ma pado, Burzhudus, Ingarniboom)
  • 2012 : Pat O'May, Celtic Wings (Eliz Iza)
  • 2012 : Red Cardell et Bagad Kemper, Falling in Love (Ar sorcerez)
  • 2014 : The Celtic Social Club, IC Will a Louise Ebrel, The Celtic Social Club (Ar martolod farw, Goadec in Da Club)

Teyrngedau

[golygu | golygu cod]

Mae nifer o artistiaid wedi manteisio ar etifeddiaeth lafar y chwiorydd. Roedd y chwiorydd yn gof byw o ddiwylliant cyfan, "tywysogesau'r cof". "Maent ymysg y trysorau pwysig i'w harbed os ydyn ni eisiau i fynegiant cerddorol y Llydaw newydd fod yn wirioneddol Llydewig" meddai Alan Stivell.[21] I'r offerynnwr Roland Becker, "nid dibwys yw eu cyfraniad i gynnydd cerddoriaeth Lydewig 'ifanc'. Roeddynt yn personoli'r gorffennol mytholegol roedd pawb yn ei hawlio ar y pryd."[22]Yn 2016, gwireddodd ei fwriad i chwarae eu melodïau ar lwyfan mewn pedwarawd.[2]

Yn 1994, rhoddwyd teyrnged iddynt gan y grŵp canu a dawnsio Kevrenn Alré, dan arweiniad Roland Becker, yn stadiwm Moustoir, yn ystod [[Gŵyl Ryng-Geltaidd An Oriant|Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorien][23] Ysgrifennodd Denez Prigent Gavotenn an Aeled (gavotte yr Angylion), alaw a gyfansoddodd yn ei gar wrth groesi mynyddoedd yr Arrée ar ei ffordd yn ôl o angladd Eugénie, yr olaf o'r chwiorydd i adael ein byd.[24] Rhoddodd Alan Stivell deyrnged iddynt gyda'r gân Goadec Rock ar ei albwm Emerald.

Yn 2012, cyflwynodd Dastum CD dwbl iddynt yn eu casgliad "Cantorion mawr Llydaw", wedi ei gyd-gynhyrchu gan y cwmni cyd-weithredol Coop Breizh. Mae'r ddau CD yn dod gyda llyfryn 145 tudalen yn llawn lluniau a gymerwyd gan fwyaf yn y cyfnod pan oeddynt ar y cyfryngau'n aml ar ôl 1972. Tynnwyd y lluniau gan ffotograffwyr proffesiynol fel Heré Antoine a Claude Jarroir. Mae'n cynnwys geiriau'r holl ganeuon a'u cyfieithiad i'r Ffrangeg, cofiant, teyrnged gan Donatien Laurent yn 1986 i "Marivon Goadeg a'i chwiorydd", tystiolaethau gan Louise a Renée Ebrel, merched Eugénie Goadec a hefyd gan Jeannot Le Coz oedd yn cymdeithasu â nhw yn rheolaidd yn y fest-noz. [17]

Mae sawl stryd yn Llydaw wedi ei henwi ar eu holau fel yn Quimper (Kemper) (Allée des Sœurs Goadeg) ac yn Pontivy (Pondi) (rue des Sœurs Goadec - Straed ar C'hoarezed Gwadeg). Comisiynodd tref Carhaix ddelwau ohonynt gan yr artist o Renne, Annick Leroy. Saif y delwau efydd ar 1.25m o uchder. Dadorchuddiwyd y ddelw ar sgwâr Champ-de-Foire ar 11 Mehefin 2014.[25] Mae cerdd gan Garlonn wedi ei chyflwyno iddynt (An Eured, 1975).

Cyfieithiad o'r erthygl Ffrangeg yw hwn. Ewch yno i wirio'r dyfyniadau.

Nodiadau a chyfeirnodau

[golygu | golygu cod]

Nodiadau

[golygu | golygu cod]
  1. Ysgrifenna trefnydd gŵyl Pop Geltaidd gyntaf Kertalg ac edmygydd y chwiorydd, Gwen Ar Goarnig amdanynt : "Mae’r chwiorydd Goadec yn grande dames, mae ganddynt y cwrteisi, y symlrwydd hyfryd na welir ond gyda phobl cefn gwlad." Mewn erthygl hir yn y cylchgrawn Best am yr ŵyl, ysgrifenna Christian Lebrun: "Bu’r chwiorydd Gouadec i ni, y Ffrancwyr anwybodus, yn agoriad llygad yr ŵyl. Ni fydden ni byth wedi disgwyl derbyn y fath drawiad. Roedd eu lleisiau gyda’i gilydd neu un ar ôl y llall mor effeithiol â chymaint o fynd i’r alaw â’r mwyaf trydanol o’r grwpiau roc caled. Roedd y cytganau yn taro’n sych, y geiriau allweddol yn cael eu morthwylio’n ddiflino a’r cyfan gyda rhythm anhygoel." Christian Lebrun, Best, rhif 62, Medi 1973, "Le second festival de Kertalg", t.28

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Anarvorig.com "Les légendaires voix des sœurs Goadec" Archifwyd 2011-02-25 yn y Peiriant Wayback
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Éliane Faucon-Dumont, Le Télégramme,‎ 18 Chwefror 2016
  3. Patrice Elegoet, ANRT, thèse en études celtiques à l'Université de Rennes 2, 2006, 468 p. (ISBN 2-7295-6987-1), p. 333-336
  4. Jacques Vassal, Paris, Albin Michel, casgliad "Rock & Folk", 1980, 190 p. (ISBN 2-226-00974-4)
  5. Jacques Vassal, taflen y record hir Enregistrement public à Bobino.
  6. Fanch Postic, Aux origines du fest-noz, ArMen Ebrill 1998
  7. 7.0 7.1 Ifig Troadec, Musique bretonne, no 233,‎ Hydref 2012, p. 40-42 (ar lein)
  8. Stivell "Sœurs Goadec", ar Dailymotion
  9. Jacques Vassal, Paris, Albin Michel, coll. «Rock & Folk», 1980, t.190
  10. Ysgrifenna trefnydd gŵyl Pop Geltaidd gyntaf Kertalg ac edmygydd y chwiorydd, Gwen Ar Goarnig amdanynt : "Mae’r chwiorydd Goadec yn grande dames, mae ganddynt y cwrteisi, y symlrwydd hyfryd na welir ond gyda phobl cefn gwlad." Mewn erthygl hir yn y cylchgrawn Best am yr ŵyl, ysgrifenna Christian Lebrun: "Bu’r chwiorydd Gouadec i ni, y Ffrancwyr anwybodus, yn agoriad llygad yr ŵyl. Ni fydden ni byth wedi disgwyl derbyn y fath drawiad. Roedd eu lleisiau gyda’i gilydd neu un ar ôl y llall mor effeithiol â chymaint o fynd i’r alaw â’r mwyaf trydanol o’r grwpiau roc caled. Roedd y cytganau yn taro’n sych, y geiriau allweddol yn cael eu morthwylio’n ddiflino a’r cyfan gyda rhythm anhygoel." Christian Lebrun, Best, rhif 62, Medi 1973, "Le second festival de Kertalg", t. 28
  11. Armel Morgant, "Eugénie Goadec", Musique bretonne, n°177, Mawrth-Ebrill 2003
  12. "Quand les cinq sœurs Goadec chantaient", Ar Soner, n°345, Hydref-Rhagfyr 1997, t.14
  13. Jean-Yves Quemener, "Sœurs Goadec: vers un 'panthéon breton'?", Ouest-France, 14 Gorffennaf 2014
  14. Ifig Troadec, Musique bretonne, no 233,‎ Hydref 2012, p. 40-42 (ar lein)
  15. Patrice Elegoet, , ANRT, thèse en études celtiques à l'Université de Rennes 2, 2006, 468 p. (ISBN 2-7295-6987-1), tt 333-336
  16. "Mort de la dernière sœur Goadec", Libération, 20 Ionawr 2003
  17. 17.0 17.1 Ifig Troadec, Musique bretonne, no 233,‎ Hydref2012, t.40-42 (ar lein)
  18. René Abjean, La musique bretonne, Ed. Jos Le Doaré, Châteaulin, 1975
  19. René Abjean, La musique bretonne, Ed. Jos Le Doaré, Châteaulin, 1975
  20. Acoustique et musique, Emile Leipp, 1971, Ed. Masson, Paris
  21. André-Georges Hamon, Chantres de Toutes les Bretagnes : 20 ans de chanson bretonne, Jean Picollec, Paris, 1981
  22. "Entretien avec Roland Becker", Ar Soner, Medi-Hydref 1994
  23. "Entretien avec Roland Becker", Ar Soner, 330, Medi-Hydref 1994, t.7
  24. Jean-Luc Padellec, Musique : Louise et Ifig captent l'air bigouden[dolen farw], Le Télégramme, 10 Ebrill 2004
  25. Patrimoine culturel breton. Les sœurs Goadec immortalisées à Carhaix, Ouest-France, 12 Mehefin 2014

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Les soeurs Goadec, le mythique trio breton ar YouTube (yn Ffrangeg)