Chwaraewyr Garthewin
| Enghraifft o: | cwmni theatr |
|---|---|
| Iaith | Cymraeg |
| Cysylltir gyda | Garthewin a Saunders Lewis |
| Dechrau/Sefydlu | 1947 |
| Lleoliad | Dyffryn Clwyd |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Dynodwyr | |
Er bod cwmnïau drama yn gysylltiedig â Theatr Garthewin mor gynnar a 1946, roedd yn rhaid aros tan 1947 i Chwaraewyr Garthewin neu Chwaraewyr Sir Ddinbych gael ei sefydlu'n swyddogol yn y Plasdy yn Nyffryn Clwyd.[1] Bu'r cwmni ymysg y rhai cyntaf i lwyfannu dramâu Saunders Lewis a Huw Lloyd Edwards, oherwydd cysylltiad y dramodwyr â pherchennog y Plas, Robert O. F. Wynne. Penderfynodd Wynne drawsnewid ysgubor ar ei Ystad yn Theatr, a chael cwmni drama preswyl, ar ei chyfer.[1] Ymysg rhai o aelodau'r cynnar y cwmni roedd Nora Jones, Edwin Williams, Nesta Harris, Morris Jones, Owen Huw Roberts a Trefor Selway.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Yn ôl Hazel Walford Davies yn ei chyfrol Saunders Lewis a Theatr Garthewin (Gomer 1995), ym mis Medi 1937 y penderfynodd Robert Wynne i "wireddu ei freuddwyd am wneud Garthewin yn gartref i'r ddrama Gymraeg".[1] Daeth Wynne i gysylltiad â Saunders Lewis ym 1932, a thrwy eu cyd-angerdd am y Ffydd Gatholig a Phlaid Genedlaethol Cymru, tyfodd cyfeillgarwch a dealltwriaeth dwfn rhwng y ddau.[1] Wedi eifeddu Garthewin ym 1933, daeth Saunders yn ymwelydd cyson â'r Plas. Yn ystod y cyfnod yma, byddai Saunders wedi ciniawa gydag unigolion a ddaeth yn flaenllaw dros hybu dyfodol a pharhâd y Theatr yng Nghymru, fel Thomas Evelyn Scott-Ellis, sy'n fwy cyfarwydd wrth ei deitl, yr Arglwydd Howard de Walden.[1] Roedd de Walden eisoes yn rhan o'r criw oedd am weld sefydlu 'Chwaraedy Genedlaethol Cymru' yn Llangollen, gyda'r gobaith iddi fod yn rhyw lun ar Theatr Genedlaethol. Oherwydd diffyg adeiladau ac adnoddau pwrpasol i gynnal a gwahodd y Chwaraedy Genedlaethol i'r ardal, dyna reswm arall pam y dewisodd Wynne i greu Theatr Garthewin.[1]
Bu'r cyfnod rhwng 1947 a 1952 yn llewyrchus iawn yn hanes y cwmni [gweler isod].
Ar ddiwedd 1953, dewisioedd Robert O. F. Wynne i "drosglwyddo gweinyddiaeth y theatr i ofal Cyngor Gwlad Sir Ddinbych", penderfyniad a fu'n "sioc fawr" i aelodau Chwaraewyr Garthewin. Trafferthion ariannol Wynne a chostau cynyddol y Theatr oedd tu cefn i'r penderfyniad. Ond daeth mwy o sioc i ran y Cwmni, gan na welai'r Cyngor unrhyw reswm paham y dylent barhau i gynnal y Cwmni yn ogystal â'r Theatr. Siomwyd Wynne hefyd, gan ei fod wedi erfyn ar y Cyngor i gefnogi'r Cwmni drama. Methiant fu'r trosglwyddo a phenderfynodd Wynne barhau fel ag yr oedd. [1]
Wedi i Saunders Lewis "bellhau" oddi wrth y cwmni ym 1953, aethont ati i lwyfannu trosiadau J. T. Jones o ddramâu Shakespeare, a dramâu newydd gan Huw Lloyd Edwards ac Aeres Evans.[1]
Tua 1970, penderfynodd y cwmni ail-leoli, oherwydd dyledion ariannol Robert O. F. Wynne a phroblemau ymarferol yng Ngharthewin. Ymgartrefodd y cwmni, a'r Ŵyl Ddrama flynyddol yn Theatr Tywysog Cymru, Bae Colwyn.
Dramâu Saunders Lewis
[golygu | golygu cod]Amlyn ac Amig

Pan gyhoeddodd Saunders Lewis ei ddrama Amlyn ac Amig ym Mai 1940, penderfynodd Robert Wynne bod yn rhaid iddo gyfieithu'r ddrama i'r Saesneg, ynghyd â Buchedd Garmon. Ni orffennodd y gwaith tan mis Tachwedd 1944.[1] Erbyn hynny, roedd y Cwmni Cenedlaethol wedi dod i ben yn sgil yr Ail Ryfel Byd, ac wedi ymadawiad mam Robert Wynne ar ôl iddo briodi, ni fu llawer o weithgaredd dramatig yn y Theatr tan ddiwedd y Rhyfel.[1]
Wedi llwyddo i gael Radio Éireann i ddarlledu ei gyfieithiad ef o Amlyn ac Amig - A Christmas Candle ym mis Rhagfyr 1945, roedd Wynne yn awyddus iawn i weld llwyfaniad ohoni yng Ngarthewin.[1] Y bwriad cychwynol oedd gwahodd cwmnïau i'r Plasdy i berfformio yn y Theatr. Gwahoddwyd Morris Jones i ymgymeryd â'r gwaith o weithredu'r Theatr ym 1946, a daeth yntau maes o law yn Gynhyrchydd y Cwmni.[1]
"Chwaraewyr Sir Ddinbych" oedd dewis enw'r Cwmni gyda'i cynhyrchiad cyntaf ym mis Ionawr 1947, sef Amlyn ac Amig. Er bod y cwmni wedi cytuno i arddel yr enw newydd ym mis Mai, ni welwyd yr enw ar ddefnydd tan mis Tachwedd 1947.[1]
Blodeuwedd


Ym 1947, wedi siarsio gan Morris Jones, fe gytunodd Saunders Lewis i gwblhau ei ddrama Blodeuwedd, ac i Chwaraewyr Garthewin gael ei llwyfannu hi am y tro cyntaf, er bod gan Saunders "amheuon" am "addasrwydd" y ddrama i Garthewin.[1] Yn sgil derbyn "gwarant o £150 yn erbyn colledion" gan Gyngor Celfyddyd Prydain Fawr ym 1948, bu'n rhaid i'r cwmni gytuno i berfformio'r ddrama mewn "saith o ganolfannau yng Ngogledd Cymru". Ymddengys mai'r canolfannau hynny oedd Garthewin, Rhuthun, Wrecsam, Bangor, Corwen, Porthmadog ac Aberystwyth.[1].
Er mwyn codi arian a nawdd at y Theatr, cychwynwyd ymgyrchu i "ddenu ffrindiau'r theatr i danysgrifio deg swllt y flwyddyn i'r achos yng Ngarthewin".[1] Gwrthodwyd nawdd ariannol gan rhai o'r prif Sefydliadau fel yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Bwrdd Petroliwm.
Eisteddfod Bodran
Pan gyhoeddodd Theatr Garthewin eu bod am gyflwyno "Gŵyl Ddrama Genedlaethol" ym mis Mai 1950, addawodd Saunders Lewis y byddai wedi gorffen drama newydd ar gyfer Chwaraewyr Garthewin erbyn Gwanwyn 1950. Drama am "fywyd cyffrous Santes Catherine o Siena" oedd y bwriad, a'i galw yn Avignon, ond ni fedrodd Saunders gyflawni'r gwaith. Aeth ati yn hytrach i greu ffars, er iddo gyfaddef wrth Kate Roberts mai nid gorchwyl hawdd oedd hynny.
Bu'n rhaid i gyfarwyddwr y ddrama, Edwin Williams, "'yrru yr holl ffordd i Lygad-y-glyn, Llanfarian [cartref Saunders ar y pryd] i gymell yr awdur i orffen y ddrama ar frys." Dechreuwyd ymarfer Eisteddfod Bodran ddechrau Mehefin 1950. Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf ar y 24 Awst 1950.
Gan Bwyll
"Methiant" fu'r perfformiad cyntaf o Gan Bwyll yng Ngŵyl Garthewin ym 1952, yn ôl Hazel Walford Davies, a hynny oherwydd mai "dieithrio'r gynulleidfa a wnaeth y ffurfiau mydryddol, y mwys a'r digrifwch ymwybodol-glyfar". Bu cryn feirniadu ar safon yr actio a'r cynhyrchiad, ac ar ôl y cynhyrchiad yma, fe ddechreuodd Saunders Lewis "ymbellhau" oddi wrth y cwmni ym 1953.[1]
Siwan
Mewn llythyr at Kate Roberts [25 Awst 1954] cyfaddefodd Saunders Lewis mai "nid fel drama radio y meddyliais i gynta' am Siwan ond ar gyfer llwyfan Garthewin". [2]Roedd Saunders wedi "sicrhau" ysgwïer Garthewin, Robert O. F. Wynne yn mis Gorffennaf 1953, y "byddai'n ysgrifennu drama newydd i'w llwyfannu yn ei theatr".[2] Bwriad Wynne oedd i gyfieithu'r ddrama i'r Saesneg hefyd, ond bu iddo ildio wedi ymyrraeth Saunders.[2] John Gwilym Jones a gyfarwyddodd y cynhyrchiad ym 1954.


Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]- Amlyn ac Amig (1947) gan Saunders Lewis
- Blodeuwedd (1948) gan Saunders Lewis
- Eisteddfod Bodran (1950) gan Saunders Lewis
- Tŷ Dol (1950) gan Henrik Ibsen - cyfieithiad Ifor Williams
- Morwyn y Môr (1951) gan F. George Fisher
- Fy Ngwely yn Uffern (1951) gan E. Meurig Walter
- Cân Rhiannon (1951) gan David Monger (cyf. Trefin)
- Gan Bwyll (1952) gan Saunders Lewis
- Nos Ystwyll (1953) gan William Shakespeare (cyf. J. T. Jones)
- Siwan (1954) gan Saunders Lewis
- Adar Brithion (1956)
- Corn Beca (1956) gan Gwynne D. Evans
- Twentieth Century Lullaby (1956) gan Cedric Mount
- Rhwd yn y Rhedyn (1957) gan J. Mansell Thomas (cyf. Emlyn Thomas)
- Cyfyng-Gyngor (1958) gan Huw Lloyd Edwards
- Ffrindiau a Pherthnasau (1960) gan St John Irvine (cyf. Trevor Williams)
- Gofid Cudd (1960) gan Alejandro Casona (cyfeiria. G. J. Evans)
- Taid (1961) gan S. Kaufman ac Edna Ferber (trosiad Dafydd Williams)
- Gwirionedd (1961)
- Y Gŵr o Wlad Us (1962) gan Huw Lloyd Edwards
- Hamlet (1964) gan William Shakespeare (cyf. J. T. Jones)
- Llythyrau Malais (1964) gan Richard Llewelyn (cyf. Jeremiah Jones)
- Petalau yn y Gwynt (1965) gan Rhydderch Jones
- Teli'r Teulu (1966) gan Elaine Morgan (cyf. Lewis Williams)
- Amlyn ac Amig (1966) gan Saunders Lewis
- Golygfa o Gwaed yr Uchelwyr (1966) gan Saunders Lewis
- Y Cwch Heb Bysgotwr (1966) gan Alejandro Casona (cyf. G. J. Evans)
- Yr Offeryn (1968) gan R. Gwynedd Jones.
- Marsiandwr Fenis (1968) gan Shakespeare (cyf. J. T. Jones)
- Cawl Cennin (1970) gan Urien Wiliam
- Plant y Niwl (1972) gan Gwilym T Hughes
- Y Gŵr Llonydd (1973) gan John Gwilym Jones
- Dedwydd Briodas (1974) gan J. B. Priestley (cyf. Mary Lewis)
- Y Ffordd (1980) gan T. Rowland Hughes
