Chwalfa Epynt

Oddi ar Wicipedia
Tafarn y Drover's Arms, a fu unwaith yn rhan ganolog o'r gymuned

Mae Chwalfa Epynt neu Glirio Epynt yn cyfeirio at orfodi cymuned Mynydd Epynt (Powys) allan o'u tai. Cafodd 200 o ddynion, merched a phlant eu troi allan o'u cartrefi gan gynnwys 54 o ffermydd a thafarn.[1]

Gweinyddiaeth Amddiffyn y Deyrnas Unedig oedd yn gyfrifol am y dadfeddiant ym 1940, gan greu Ardal Hyfforddi Pontsenni (SENTA), sef ardal hyfforddi filwrol fwyaf Cymru.[1]

Defnyddir y term "Cofiwch Epynt" er cof am yr hanes, mewn modd tebyg i Cofiwch Dryweryn.[2][3][4]

Cliriad a defnydd milwrol[golygu | golygu cod]

Siaradodd nifer o Aelodau Senedd Cymru a ffigyrau blaenllaw yn erbyn y meddiannu. Er hyn, ni wrandawyd ar y gwrthwynebiad. Ystyriwyd y gwrthwynebiad yn wrth-Brydeinig a'i fod yn tanseilio ymdrech y rhyfel.[5] Gan fod y cliriad wedi digwydd yn ystod y tymor wyna, caniatawyd estyniad byr i rai ffermwyr, ond roedd pob un o’r achosion o ddadfeddianu wedi’u cwblhau erbyn Mehefin 1940. Cafodd cyfanswm o bedwar cant o bobl eu taflu allan, gyda'r fyddin yn meddiannu 30,000 acr (12,000 ha)o dir. Ardal Hyfforddi Pontsenni (SENTA) yw'r ardal bellach, un o'r parthau hyfforddi milwrol mwyaf yn y Deyrnas Unedig.[6][7]

Dinistriodd gweithgareddau hyfforddi y rhan fwyaf o strwythurau gwreiddiol cymuned Mynydd Epynt. Roedd y rhain yn cynnwys capeli a mynwentydd. Er gwaethaf hyn, adeiladwyd pentref artiffisial yn yr ardal ym 1988. Fe godwyd llawer o adeiladau ffug fel rhan o brosiect "Fighting In Built Up Areas" (FIBUA), gan gynnwys capel ffug gyda cherrig beddau ffug.[8]

Effaith y chwalfa[golygu | golygu cod]

Disgrifir y cliriad fel "y Chwalfa" yn Gymraeg ac mae wedi'u disgrifio fel "ergyd angau i Sir Frycheiniog-Gymraeg" gan Euros Lewis. Tynnodd Lewis gymariaethau â diwedd cymuned Capel Celyn, gan nodi cyfradd marwolaeth gymharol ifanc y rhai a gafodd eu troi allan, a'r gred bod un preswylydd wedi "ei lefain ei hun i farwolaeth". Wrth i'r rhai gafodd eu troi allan gael eu gwasgaru i ardaloedd mwy Saesneg eu hiaith, cafodd y cliriad effaith sylweddol ar y Fro Gymraeg, gan leihau ei hardal yn nwyrain Cymru a nifer y tafodieithoedd a siaredir.[9][10]

Mae adroddiadau diweddarach yn awgrymu bod llawer o’r rhai a gafodd eu troi allan dan yr argraff y byddent yn dychwelyd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae hanesion am bobl yn gadael eu goriadau mewn cloeon ac yn dychwelyd i gynnal a chadw'r cartrefi ac hyd yn oed yn parhau i aredig y caeau. Cafodd y fyddin anhawster i gadw rhai cyn-drigolion draw. Dychwelodd Thomas Morgan i'w dŷ, "Glandŵr", yn ddyddiol i gynnau tân yr aelwyd er mwyn amddiffyn cerrig y tŷ. Rhybuddiwyd Morgan dro ar ôl tro i roi'r gorau iddi, ond parhaodd nes cafodd ei gartref ei dinistrio gan ffrwydron, gyda swyddog milwrol yn ei hysbysu "Rydym wedi chwythu'r ffermdy i fyny. Fydd dim angen i chi ddod yma bellach."[10][11]

Dogfennwyd y chwalfa gan Iorwerth Peate, curadur a sylfaenydd Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Ymwelodd Peate â'r ardal sawl gwaith, gan gynnwys diwrnod olaf y cliriad. Disgrifiodd Peate yn atgof o gyfarfod un o'r rhai a gafodd ei throi allan, yn ei chartref "Waunlwyd". Eisteddodd y ddynes oedrannus yn llonydd a dagreuol gyda'i chefn at y tŷ. Darganfu Peate yn ddiweddarach fod y ddynes yn 82 mlwydd oed ac wedi ei geni yn y cartref, fel y ganed ei thad a'i thaid. Ceisiodd Peate gilio pan ofynnodd y wraig iddo yn sydyn o ble yr oedd yn dod. Atebodd Peate "Caerdydd", ac atebodd hi, "Fy machgen bach i, ewch yn ôl yno gynted ag y medrwch", "Mae'n ddiwedd byd yma". Mae'r term "Mae'n diwedd byd yma" wedi cael ei gysylltu gyda'r cliriad ac yn deitl ar lyfr ar Hanes Mynydd Epynt a gyhoeddwyd yn 1997.[12]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Epynt village clearance: Woman remembers, 80 years on". BBC News (yn Saesneg). 2020-06-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-07-16. Cyrchwyd 2022-07-19.
  2. "'Cofiwch Epynt' slogan appears on A470 in mid Wales | brecon-radnor.co.uk". Brecon & Radnor Express. 2019-04-26. Cyrchwyd 2022-07-20.
  3. "Cofiwch Epynt... Is it not high time that the army left the area?". undod (yn Saesneg). 2020-06-28. Cyrchwyd 2022-07-20.
  4. "Cofiwch Epynt". Literature Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-07-20.
  5. Turner, Robin (16 August 2010). "Remembering the tragedy of Welsh-speaking Epynt cleared for an MoD training area" (yn Saesneg). Wales Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Awst 2021. Cyrchwyd 18 Awst 2021.
  6. Mair, Angharad (14 July 2010). "From Penyberth to Parc Aberporth: Welcome to Warmongering Wales". Institute of Welsh Affairs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 August 2021. Cyrchwyd 18 August 2021.
  7. Tomos, Angharad (2 Mehefin 2020). "'It's the end of the world': Why we should remember the clearing of Epynt 80 years on" (yn Saesneg). Nation.Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Awst 2021. Cyrchwyd 17 Awst 2021.
  8. T, Driver (8 Mawrth 2005). "Sennybridge German Villa Ge; 'fibua' Training Facility". Coflein (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Awst 2021. Cyrchwyd 18 Awst 2021.
  9. Turner, Robin (16 August 2010). "Remembering the tragedy of Welsh-speaking Epynt cleared for an MoD training area". Wales Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Awst 2021. Cyrchwyd 18 Awst 2021.
  10. 10.0 10.1 Williams, Clare. "Epynt: A lost community". NFU Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Mai 2022.
  11. Hughes, Herbert Daniel (1998). An uprooted community: A history of Epynt (yn Saesneg). Llandysul: Gomer. ISBN 9781859026663.
  12. Hughes, Herbert Daniel (1997). 'Mae'n ddiwedd byd yma ... ' : Mynydd Epynt a'r troad allan yn 1940. Llandysul: Gwasg Gomer. ISBN 9781859024140.