Christmas Price Williams
Gwedd
| Christmas Price Williams | |
|---|---|
| Ganwyd | 25 Rhagfyr 1881 |
| Bu farw | 18 Awst 1965 |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd |
| Swydd | Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig |
| Plaid Wleidyddol | plaid Ryddfrydol |
Roedd Christmas (Chris) Price Williams (25 Rhagfyr, 1881 – 18 Awst, 1965) yn wleidydd Rhyddfrydol o Gymru ac yn Aelod Seneddol dros etholaeth Wrecsam.
Teulu ac addysg
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed, fel y cyfeiria'i enw, ar Ddydd Nadolig, a hynny yn 1881.[1] Roedd yn fab i Peter Williams, a oedd yn Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni enfawr Brymbo Steel Company ger Wrecsam. Mynychodd Ysgol Grove Park yn y dref honno cyn cwbwlhau gradd mewn gwyddoniaeth ac yna gradd Mesitr (MSc) ym Mhrifysgol Victoria, Manceinion.[1] Yn 1909 priododd Marion Davies o Frymbo[1] awdur nifer o nofelau a dramâu.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gweithiodd am beth amser fel drafftsmon a pheiriannydd yn Sheffield, Warrington ac yn Ne Affrica.[2] Bu'n Rheolwr am ran o'r amser ac ymchwiliodd hefyd i ddiwydiannau Canada[1].