Christabel Marshall

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Christabel Marshall
Ganwyd 24 Hydref 1871 Edit this on Wikidata
Caerwysg Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Hydref 1960 Edit this on Wikidata (88 oed)
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth dramodydd, ysgrifennwr, swffragét, ymgyrchydd pleidlais i ferched Edit this on Wikidata
Priod Edith Craig Edit this on Wikidata
Partner Edith Craig, Clare Atwood Edit this on Wikidata

Ffeminist o Loegr oedd Christabel Marshall (24 Hydref 1871 - 20 Hydref 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel dramodydd, swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.

Cafodd ei geni yng Nghaerwysg ar 24 Hydref 1871. Hi oedd yr ieuengaf o naw o blant Emma Marshall, née Martin (1828–1899), nofelydd, a Hugh Graham Marshall (c.1825-1899), rheolwr Banc Gorllewin Lloegr (West of England Bank). Newidiodd ei henw pan derbyniodd y ffydd Gatholig yn 1912. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Somerville a Choleg Rhydychen. [1][2]

Roedd Marshall yn byw mewn ménage à trois gyda'r artist Clare Atwood a'r actores cyfarwyddwr theatr, cynhyrchydd a'r dylunydd gwisgoedd Edith Craig o 1916 nes i Craig farw ym 1947.[3][4][5]

Yn 1909 trodd Marshall stori fer Cicely Hamilton How The Vote Was Won yn ddrama a ddaeth yn boblogaidd gyda grwpiau menywod / ffemininistaidd ledled gwledydd Prydain. Hefyd ym 1909, ymunodd Marshall â dirprwyaeth WSPU i Dŷ'r Cyffredin yn y DU, gan gyfrannu erthygl Why I Went on the Deputation i'r cylchgrawn Votes for Women ym mis Gorffennaf 1909. Fel "Christopher St John" ym 1915, cyhoeddodd ei nofel hunangofiannol Hungerheart, a ddechreuodd yn 1899, ac oedd yn seiliedig ar ei pherthynas ag Edith Craig a'r ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb105374729; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb105374729; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Los Angeles Times Review A Strange Eventful History: The Dramatic Lives of Ellen Terry, Henry Irving, and Their Remarkable Families by Michael Holroyd, 23 March 2009
  4. Charlotte Perkins Gilmore: Optimist Reformer. Jill Rudd & Val Gough (editors), University of Iowa Press, p. 90 (1999) Google Books
  5. Law, Cheryl. Suffrage and Power: the Women's Movement, 1918-1928. i B Tauris & Co, p. 221 (1997) Google Books