Chizé

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Pentref a chymuned yng ngorllewin Ffrainc yw Chizé. Saif yn département Deux-Sèvres a région Poitou-Charentes, ar lan afon Boutonne. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 949.

Tyfodd y pentref o amgylch y castell, sydd bellach yn adfeilion. Bu nifer o frwydrau yma yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, yn cynnwys un y bu gan Owain Lawgoch ran ynddi.