Chieko Kawabe

Oddi ar Wicipedia
Chieko Kawabe
Ganwyd24 Chwefror 1987 Edit this on Wikidata
Tokyo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Japan Japan
Alma mater
  • Prifysgol Asia, Tokyo Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr, model ffasiwn, awdur geiriau, actor plentyn, tarento, ysgrifennwr, model Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Taldra167 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau49 cilogram Edit this on Wikidata
Yn yr enw Japaneaidd hwn, Kawabe yw'r enw teuluol.

Cantores o Japan yw Chieko Kawabe (越智 千恵子 Ochi Chieko) a anwyd gyda'r enw 河辺千恵子 (Chieko Kawabe) ar 24 Chwefror 1987. Mae hefyd yn actores, yn fodel ffasiwn, ac yn 'tarento' (seren deledu yn Japan).

Fe'i ganed yn Tokyo ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Asia, Tokyo.[1]

Hi oedd Morwr Mercher yn y gyfres-miwsical byw Sailor Moon pan oedd yn 12 od yn 2000, cyn trosglwyddo'r rôl i Wakayama Manami. Mae llawer o'i chaneuon wedi cael eu defnyddio mewn cyfresi anime a sioeau teledu, gan gynnwys Ōran Kōkō Hosuto Kurabu (Clwb Gwadd Ysgol Uwchradd Ouran High) a Lizzie McGuire.

Magwraeth a phriodi[golygu | golygu cod]

Daeth ei mam yn wreiddiol o'r Philipinau a'i thad o Japan.

Priododd y cynhyrchydd Masato Ochi ar 8 Awst 2008.[2] Wedi 7 mlynedd (yn 2015), ysgarodd y ddau.[3] Yn 2010 cyhoedd gyfrol ar goginio. Mae ganddi un ferch.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Rhyddhaodd Kawabe y sengl Be Your Girl ar 27 Ebrill, 2004. Dyma'r gân-thema ar ddiwedd yr anime Elfen Lied, a'i chân arall, "Hoshi ni Negai o" oedd cân-thema ar ddiwedd Otogizoshi. Rhyddhaodd Shining yn 2004, a Kizunairo yn 2005. Defnyddiwyd y gân "I Can't Wait", o'r sengl "Kizunairo" fel y cân-thema i fersiwn Japaneaidd y sioe Lizzie McGuire.[5]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 9 Ionawr 2016.
  2. "BREAKING NEWS: Chieko Kawabe Marries Producer". Moon Chase! A Sailor Moon News Blog. 17 Awst 2008. Cyrchwyd 26 Mawrth 2011.
  3. "Masato Ochi Divorces 21 Years Younger Wife". Sponichi Annex. 21 Tachwedd 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "越智千恵子オフィシャルブログ Powered by Ameba". ameblo.jp. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2015.
  5. "Chieko Kawabe's Bio". jpopasia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-09. Cyrchwyd 26 Mawrth 2011.