Neidio i'r cynnwys

Chickasaw

Oddi ar Wicipedia
Chickasaw
Enghraifft o:grŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathBrodorion Gwreiddiol America yn UDA Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0n0y5 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Hen diriogaeth llwythol Chickasaw a'r neilltuad cyntaf (1838), Llwybr y Dagrau (Trail of Tears) a rhyfeloedd Indiaidd yn ne-ddwyrain yr Unol Daleithiau 1811-1847

Un o bobloedd frodorol America yw'r Chickasaw (Chikasha yn yr iaith Chickaseg). Yn wreiddiol roedden nhw'n byw yng ngogledd Mississippi a gorllewin Tennessee.[1] Cawsant eu trawsosod i Diriogaeth Indiaidd, yn ddiweddarach Oklahoma, ar y Llwybr Dagrau ('Trail of Tears') ym 1838 a 1839 ynghyd â'r Cherokee, Siocto, Muscogee (Creek) a Seminole, yr hyn a elwir y Pum Llwyth Gwâr.[2]

Maen nhw'n siarad ieithoedd Muskogeaidd. Mae eu hiaith ysgrifenedig bron yr un fath ag iaith cenedl y Siocto; mae eu hiaith yn debyg iawn, ond mae gwahaniaethau tafodiaith. Ar un adeg roedd yr iaith Chickasaw yn gyfrwng cyfathrach fasnachol a llwythol i holl lwythau Mississippi isaf, a oedd bron yn cael ei rheoli gan genedl bwerus a rhyfelgar y Chickasaw yn ystod yr 17 ac 18g.

Mae "Oklahoma" yn enw chickasaw sy'n golygu "daear goch".

Ceir sawl tref yn yr Unol Daleithiau a enwir wedi'r bobl frodorol yma, megis Chickasaw, Ohio a Chickasaw, Alabama.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Gibson, Karen Bush (26 Ionawr 2017). The Chickasaw Nation (yn Saesneg). Capstone. ISBN 9780736813655.
  2. ↑ Swanton, John (1931). Source Material for the Social and Ceremonial Life of the Choctaw Indians. The University of Alabama Press. t. 29. ISBN 0-8173-1109-2.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]