Chicago (sioe gerdd)

Oddi ar Wicipedia
Chicago
200
Poster Chicago o gynhyrchiad y West End
Cerddoriaeth John Kander
Geiriau Fred Ebb
Llyfr Fred Ebb
Bob Fosse
Seiliedig ar Yn seiliedig ar y ddrama Chicago gan Maurine Dallas Watkins
Cynhyrchiad 1975 Broadway
1978 Buenos Aires
1979 West End
1981 Awstralia
1981 Vienna
1996 Broadway
1997 West End
1998 Vienna
1999 Madrid
1999 Utrecht
2002 Gwlad Pwyl
2005 Taith yr Unol Daleithiau
2005 Buenos Aires
2006 Taith y DU
2006 Dubai
2007 Tokyo
2008 Seoul
2009 Yr Iseldiroedd
2009 Taith Awstralaidd
2009 Taith y DU
Gwobrau Gwobr Tony am yr Adfywiad Gorau o Sioe Gerdd

Sioe gerdd gan Kander ac Ebb ydy Chicago, sydd wedi ei lleoli yn ninas Chicago. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan John Kander a'r geiriau gan Fred Ebb yn seiliedig ar lyfr gan Ebb a Bob Fosse. Mae'r stori yn dychanu anonestrwydd y system gyfreithiol a'r cysyniad o "droseddwr enwog". Seiliwyd y sioe gerdd ar ddrama 1926 o'r un enw gan y newyddiadurwr Maurine Dallas Watkins am droseddau go iawn yr oedd hi wedi adrodd amdanynt.

Agorodd y sioe wreiddiol ar Broadway ar 3 Mehefin 1975 yn Theatr 46th Street Theatre a bu yno am gyfanswm o 936 o berfformiadau. Coreograffodd Bob Fossey cynhyrchiad gwreiddiol, a chysylltir ei arddull ef â'r sioe. Erbyn 15 Tachwedd 2008 roedd y sioe wedi cael ei pherfformio dros 5,000 o weithiau. Cafodd y ffilm adfywiad yn sgîl cynhyrchiad yn West End Llundain a sawl thaith a chynhyrchiad rhyngwladol. Rhyddhawyd fersiwn ffilm yn 2002 Chicago.