Cherry Vann
| Cherry Vann | |
|---|---|
| Ganwyd | 29 Hydref 1958 Whetstone |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | esgob Anglicanaidd |
| Swydd | Archesgob Cymru |
Archesgob Cymru ac Esgob Mynwy yw'r Hybarch Cherry Vann (ganwyd 29 Hydref 1958). Daeth yn Esgob Mynwy yn 2020 ac Archesgob yn Nhachwedd 2025.[1]
Fe'i ganwyd ar 29 Hydref 1958 yn Whetstone, Swydd Gaerlŷr, Dwyrain Canolbarth Lloegr. Astudiodd yn y Coleg Cerdd Frenhinol, Llundain, cyn hyfforddi ar gyfer yr offeiriadaeth yng Nghaergrawnt. Cafodd ei hordeinio'n ddiacon ym 1989 ac yn offeiriad ym 1994. Roedd ymhlith y menywod cyntaf i gael eu hordeinio’n offeiriaid yn Eglwys Loegr. Gwasanaethodd ei holl weinidogaeth ordeiniedig gydag Eglwys Loegr yn Esgobaeth Manceinion, cyn iddi ddod yn Esgob Mynwy yn 2020.
Cafodd ei hethol yn Archesgob ar 30 Gorffennaf 2025, y ddynes gyntaf i gael ei hethol i'r swydd. Cafodd ei hurddo'n Archesgob Cymru ar 8 Tachwedd 2025.[2]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Mae hi'n byw gyda’i phartner sifil, Wendy, a’u dau gi.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ethol Cherry Vann yn Archesgob newydd Cymru". Cymru Fyw. 30 Gorffennaf 2025. Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2025.
- ↑ "Cherry Vann yn cael ei hurddo'n Archesgob Cymru". newyddion.s4c.cymru. 2025-11-08. Cyrchwyd 2025-11-09.
- ↑ "Esgob Cherry Vann", Yr Eglwys yng Nghymru; adalwyd 30 Gorffennaf 2025